Aprentis YEPS newydd

Shwmae bawb! Dylan ydw i, dechreuais fy mhrentisiaeth Gwaith Ieuenctid gyda’r Gwasanaethau Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) ar 7 Medi.

Penderfynais wneud cais am y brentisiaeth yma oherwydd, wrth gwblhau fy ngradd, fy mod i wedi dysgu pa mor bwysig yw gwaith ieuenctid. Dysgais am yr effaith gadarnhaol y mae’n gallu ei chael ar fywydau pobl ifainc. Roeddwn i eisiau’r cyfle i wneud gwahaniaeth yn fy nghymuned leol a chefnogi pobl ifainc i gyflawni eu nodau.

Dros yr wythnosau diwethaf, rydw i wedi bod  yn dysgu am y gwahanol gyfleoedd a chefnogaeth sydd ar gael trwy YEPS. Rydw i wedi bod yn rhan o ystod o brosiectau, gan gynnwys gwaith swyddfa, hyfforddiant, gweithio ochr yn ochr ag aelodau Senedd Ieuenctid a Senedd Ieuenctid Cymru, cefnogi pobl ifainc yn Ysgol Nantgwyn, ac ymweld â chlybiau ieuenctid fel Cwt Sgowtiaid Tonypandy a Gwernifor.

Fy hoff ran hyd yn hyn yw cwrdd â chynifer o bobl newydd. Rydw i wedi cael y cyfle i weithio gyda staff profiadol a gwybodus, yn ogystal â rhai pobl ifainc anhygoel sydd i gyd yn dod â rhywbeth unigryw i’r gwasanaeth.

Un peth sydd wedi fy synnu’n fawr yw faint o gefnogaeth sydd ar gael i bobl ifainc drwy YEPS. Mae hyn yn cynnwys cymorth o ran lles, addysg, cyflogaeth a hyfforddiant, cymorth yn yr ysgol, digartrefedd, a llawer yn rhagor. Mae wedi bod yn wych dysgu am yr holl ffyrdd y mae YEPS yn helpu pobl ifanc i oresgyn heriau a chyrraedd eu potensial.

Rydw i wedi cael croeso cynnes gan y Garfan YEPS. Mae pawb wedi bod yn gyfeillgar, yn hawdd mynd atyn nhw, ac yn hynod gefnogol. Mae hyn wedi fy helpu i ymgartrefu yn fy rôl newydd a meithrin hyder yn ystod yr wythnosau cyntaf.

Wrth edrych tua’r dyfodol, rwy’n llawn cyffro i ymweld â mwy o glybiau ieuenctid ledled yr ardal a chwrdd â rhagor o staff a phobl ifainc. Rwy’n edrych ymlaen at ddysgu sgiliau newydd, ennill profiad, a pharhau ar fy nhaith fel Prentis Gwaith Ieuenctid.

Os ydych chi’n ystyried bod yn rhan o’r hyn sy’n cael ei gynnig gan y Garfan YEPS, byddwn i yn bendant yn eich annog i roi cynnig arni. Mae’n gyfle gwych i wneud ffrindiau newydd, rhoi cynnig ar weithgareddau newydd, dysgu sgiliau newydd, a chael hwyl mewn amgylchedd croesawgar a chefnogol.

GOT SOMETHING TO SAY?

All Articles