Prentisiaid YEPS

Mae gennym ddau brentis sydd wedi ymuno â’r tîm YEPS.

Roedd Kira eisiau dod yn Weithiwr Prentis Ieuenctid gan fod ganddi ddiddordeb mewn gwaith ieuenctid. Mynychodd glybiau ieuenctid pan oedd hi’n iau, yn ogystal â dysgu ychydig amdano ar gyrsiau yn y coleg.

Roedd hi’n arfer gwirfoddoli yn Valley’s Kids ym Mhenygraig. Roedd ei dyletswyddau yna yn cynnwys helpu’r bobl ifanc i greu pethau gyda chelf a chrefft, addurno teisennau yn y gegin a goruchwylio eu chwarae.

Mae Kira yn hoff o siopa, bwyta allan, parciau thema a chyngherddau.


Astudiodd Lewis yn Ysgol Gymunedol Glynrhedyn ac yna aeth i’r coleg i hyfforddi i ddod yn beiriannydd mecanyddol cymwys.

Roedd Lewis eisiau dod yn weithiwr ieuenctid oherwydd ei fod yn mwynhau clwb ieuenctid yn yr ysgol, wnaeth Lewis dod o hyd i gysylltiad â gweithwyr ieuenctid ac yn ei chael hi’n haws siarad â gweithwyr ieuenctid na unrhywun arall, gan eu bod yn deall materion/problemau y byddai person ifanc yn mynd trwy.
Y gwersi a ddysgodd Lewis ganddyn nhw mae’n gobeithio i drosglwyddo i’r bobl ifanc y bydd yn gweithio gyda nhw ar ei daith fel gweithiwr ieuenctid.

Mae ei hobïau yn cynnwys rygbi, golff a chymdeithasu â ffrindiau.

Mae Kira a Lewis yn edrych ymlaen at eich gweld chi yng nghlybiau a gweithgareddau ieuenctid YEPS yn y dyfodol!