Arddangosfa Gelf Pobl Ifainc – ‘Chwilio am Enfys’

Mae Carfan Celfyddydau Diwydiannau Creadigol RhCT yn falch o gyflwyno’r Arddangosfa Gelf Pobl Ifainc – ‘Chwilio am Enfys’.

Yn ystod y cyfyngiadau symud yn 2020 anogwyd egin artistiaid lleol i gymryd rhan yn ein cystadleuaeth gelf sy’n gobeithio datblygu eu dyheadau, eu hunan-barch a’u hyder. Cawson ni ymateb gwych ac roedd hi’n anodd iawn dewis yr enillwyr oherwydd talent a safon uchel pob darn.

Bydd y darn o gelf gan eich artist ifanc yn cael ei arddangos yn ei arddangosfa ei hun yn Oriel y Gweithwyr, 99 Ynys-hir Rd, Ynys-hir, Porth, CF39 0EN o 10 Mehefin. Mae’r prosiect sy’n cael ei redeg gan Gydlynydd Prosiect y Celfyddydau Ieuenctid, Jessie Jenkins, yn fenter flynyddol newydd a fydd yn dod yn rhaglen flaenllaw yn ein harlwy.

Hoffen ni annog rhieni, teulu a ffrindiau i fynychu’r oriel rhwng 10 a 12 o Fehefin i bleidleisio dros ein Gwobr ‘Dewis y Bobl’. Dyma’r darn o gelf a fydd hefyd yn cael lle amlwg gyda’r enillwyr ac sydd wedi cael ei bleidleisio gan y bobl.

Bydd yr arddangosfa i’w gweld yn Oriel y Gweithwyr o’r 10fed tan y 26ain o Fehefin sy’n rhoi oddeutu 2 wythnos ichi ddod a gweld pob un o’r darnau yn cael ei arddangos. Oriau agor yr oriel: Dydd Iau – dydd Sadwrn rhwng 11am – 4:30 pm.

Ar ôl y 26ain o Fehefin bydd yr arddangosfa gorfforol wedyn yn gadael yr amgueddfa ac yn mynd ar daith. Mae hyn yn golygu y bydd pobl mewn cartrefi nyrsio, cartrefi gofal a chyfleusterau eraill yn gallu edmygu’r gwaith. Ar ddiwedd yr arddangosfa yn yr oriel bydd y lluniau’n cael eu harddangos mewn arddangosfa ar-lein ar wefan Amgueddfa Cwm Cynon. 

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl