Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd 2021

Gofal iechyd meddwl i bawb: gadewch i ni ei wireddu

Mae wythnos hwn yn nodi dyddiad Diwrnod Iechyd Meddwl y Byd.

Yma yn YEPS hoffwn annog pobl ifanc i siarad am Iechyd Meddwl; cael cefnogaeth i’r heriau a dathlu’r pethau cadarnhaol. Mae gan bob un ohonom ein helbulon #itsoknottobeok

Gall YEPS helpu i’ch cyfeirio chi neu ddarparu cefnogaeth.

Rydym yn rhedeg cystadleuaeth gyffrous a byddem wrth ein bodd os ydych yn cymryd rhan!!

Y cystadleuaeth

Dylunio offeryn iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc. Gallai hyn fod yn boster, offeryn (fel ffidget), cerdd anogaeth / fideo / adolygiad o ap lles a ddefnyddir neu rywbeth hollol newydd
Gallwch anfon y dyluniad neu anfon fideo atom yn esbonio’r eitem (heb fod yn fwy na 2 funud)
Bydd 3 gwobr. Enillydd a x2 yn ail.

Gwobrau

Bydd yr enillydd yn derbyn hamper gyda thaleb Amazon gwerth £40, taleb Apple / Google gwerth £40 ac eitemau lles.
Bydd y 2 ail orau yn derbyn dewis taleb o Amazon neu Apple / Google werth £30.

Manylion

  • Bydd y gystadleuaeth ar agor rhwng 6/10 – 16/10
  • Anfonwch eich ceisiadau atom trwy DM ar @YEPSRCT ar Instagram / Facebook neu Twitter
  • Bydd panel beirniadu ar 19/10
  • Cyhoeddir enillwyr ar gyfryngau cymdeithasol YEPS ar 20/10

Meini prawf i cofrestru

  • Rhaid i chi fod yn 11-25 oed ac yn byw yn RhCT
  • Rhaid i chi gyflwyno cyn / ar y dyddiad cau
  • Os rhennir unrhyw wybodaeth bersonol adnabyddadwy bydd angen i ni ofyn am ganiatâd rhieni cyn ail-rannu gyda’r cyhoedd

Iselder a hunanladdiad: yr hyn y mae angen i chi ei wybod a beth allwch chi ei wneud

Mae iselder yn gyflwr iechyd meddwl cyffredin. I rai pobl mae iselder ysbryd yn ysgafn ac yn fyrhoedlog; i eraill, mae’n fwy difrifol a thymor hwy. Dim ond unwaith yr effeithir ar rai pobl; eraill fwy nag unwaith.

Ar y gwaethaf, gall iselder arwain at hunanladdiad. Fodd bynnag, mae llawer y gellir ei wneud i atal a thrin iselder ysbryd ac i helpu pobl sy’n meddwl am hunanladdiad.

Mae’r dolenni isod yn darparu gwybodaeth am iselder ysbryd a hunanladdiad ac arweiniad ar atal a thrin.

https://cdn.who.int/media/docs/default-source/campaigns-and-initiatives/world-mental-health-day/2021/5_preventing_depression_during_teens_and_twenties.pdf?sfvrsn=cbd43ed8_5

https://cdn.who.int/media/docs/default-source/campaigns-and-initiatives/world-mental-health-day/2021/2_living_with_someone_with_depression.pdf?sfvrsn=2508f8ba_7

https://cdn.who.int/media/docs/default-source/campaigns-and-initiatives/world-mental-health-day/2021/4_suicide_for_friend_family_members_2021.pdf?sfvrsn=ec5c0d68_5

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl