Mae Eich Barn yn rhoi cyfle i bobl ifanc yn Rhondda Cynon Taf ddweud eu dweud. Credwn fod barn pobl ifanc yn bwysig ac rydym am i CHI fod yn rhan o wneud newid cadarnhaol. Nid yn unig y bydd gennych eich hawl i ddweud eich barn byddwch hefyd yn cael adborth yn unol â Safon Cyfranogiad Cenedlaethol Cymru ar y gwahaniaethau rydych wedi’u gwneud a sut y gwrandewir ar eich syniadau.