Gweithgareddau

Mae’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid Rhondda Cynon Taf (YEPS) wedi ymrwymo i gynorthwyo pobl ifanc i gyflawni eu potensial.

Un ffordd rydym yn gwneud hyn yw trwy ddarparu rhaglen lawn a gafaelgar o weithgareddau ledled ysgolion a chymunedau’r sir i bobl ifanc yn RhCT rhwng 11 a 25 oed. Ar y dudalen hon fe welwch ein holl raglen o weithgaredd cyfredol.

Cymerwch yr amser i edrych trwy’r tabiau ar ben y map i weld Ysgolion, Clybiau Ieuenctid a Grwpiau a Digwyddiadau.

Gallwch gysylltu â thîm YEPS trwy’r cyfryngau cymdeithasol ar Facebook / Twitter / Instagram neu gysylltu â swyddfa YEPS ar 01443 281436 rhwng 9yb-5yh o ddydd Llun i Ddydd Gwener.