Llynedd roedd dros 470,000 o bobl ifanc wedi cymryd rhan mewn pleidlais genedlaethol, ‘Make Your Mark’.
Mae hwn yn bleidlais flynyddol Senedd Ieuenctid y DU o rai 11-18 oed, ac eleni rydym eisiau i 1 miliwn o bobl ifanc gymryd rhan.
Yn cael ei redeg gan bobl ifanc, mae Senedd Ieuenctid y DU yn rhoi’r cyfle i rai 11 i 18 oed defnyddio’u llais mewn ffyrdd creadigol i newid pethau sydd yn bwysig i ti – mae ‘Make Your Mark’ yn rhan enfawr o hyn. Tan 10fed Hydref rydym yn gofyn i bobl ifanc ledled y wlad pa faterion sydd fwyaf pwysig iddyn nhw. Mae beth rwyt ti’n ei ddweud wrthym ni yn penderfynu beth sydd yn cael ei drafod gan Senedd Ieuenctid y DU yn y Tai Cyffredin ar 14eg Tachwedd. Mae pleidleisio yn digwydd ar-lein a gyda phapurau pleidleisio yn cael eu dosbarthu mewn ysgolion a chanolfannau ieuenctid.
Bydd deg pwnc ar gael i ddewis ohonynt ar y papur pleidlais ‘Make Your Mark’ cychwynnol, gyda’r pum pwnc mwyaf poblogaidd ymysg pobl ifanc yn mynd ymlaen i gael eu trafod gan Aelodau Senedd Ieuenctid yn y ddadl mis Tachwedd, yn cael ei gadeirio gan Lefarydd y TÅ· Cyffredin, John Bercow AS, a’i ddarlledu yn fyw ar y teledu.
I bleidleisio, neu i gymryd mwy o ran a helpu cael barn bobl ifanc eraill wrth ddod yn Bencampwr ‘Make Your Mark’, cer drawi mym.mi-vote.com cyn y 10fed o Hydref.
Cer draw i www.byc.org.uk. Dilyna ni ar twitter: twitter.com/bycLIVE
Delwedd: byc
Erthygl Berthnasol: Ateb Eich Cwestiynau
Gwybodaeth – Y Gyfraith a Hawliau – Cyfranogaeth
Gwybodaeth – Dy Fyd Di – Gwleidyddiaeth – Gwleidyddiaeth Ieuenctid
DELWEDD: rachel_titiriga trwy Compfight cc
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru