YEPS

Anghenion Addysgol Arbennig

Beth yw Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)? Dyna anghenion plant sydd ag anawsterau dysgu neu anableddau sy’n gwneud dysgu yn fwy anodd iddyn nhw nag i’w cyfoedion. Gallai hefyd olygu bod anabledd corfforol yn eu rhwystro rhag defnyddio rhai cyfleusterau yn yr ysgol.

Mae gwahanol fathau o anghenion addysgol arbennig yn cael eu disgrifio drwy lefelau gwahanol h.y. anawsterau dysgu cymedrol, difrifol, penodol, lluosog neu ddwys. Weithiau caiff dyslecsia ei ystyried i fod yn angen addysgol arbennig oherwydd ei fod yn achosi anawsterau ar ddysgu a chaffael sgiliau sylfaenol i rai pobl ifainc. Mae enghreifftiau eraill o anghenion addysgol arbennig yn cynnwys pobl ifainc sydd â nam ar eu clyw neu eu golwg, anawsterau lleferydd neu iaith neu anabledd corfforol.

Mae yna hefyd cyflyrau eraill megis Awtistiaeth, Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) ac Anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol sy’n golygu bod pobl ifanc yn ei chael hi’n anodd dysgu ac felly bydd ganddyn nhw anghenion addysgol arbennig.

Os oes gen ti anghenion addysgol arbennig efallai bydd angen help arnat ti gan gynnwys gwneud gwaith cartref, cysylltu â phobl ifainc eraill ac oedolion, dy ymddygiad a gweithgareddau corfforol.

Dylai ysgolion ddarparu cymorth ychwanegol, naill ai oddi wrth dy athrawon, y Cydlynydd AAA (y person yn yr ysgol sy’n gyfrifol am gydlynu help ar gyfer plant sydd ag anghenion addysgol arbennig), neu oddi wrth arbenigwr allanol. Serch hynny, weithiau mae’n well os wyt ti’n mynychu ysgol sy’n addas ar gyfer dy anghenion.

Mae datganiad o anghenion addysgol arbennig yn archwiliad manwl sy’n cael ei gynnal gan weithwyr proffesiynol amrywiol a allai gynnwys cynghorydd ysgol neu addysg, seicolegydd addysg, meddyg a gwasanaethau cymdeithasol. Mae’n cael ei ddefnyddio i gael gwybod yn union beth yw dy anghenion addysgol arbennig ac mae’n bwysig i wneud yn siŵr dy fod ti’n derbyn y cymorth a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnat ti.

Mae modd dod o hyd i wybodaeth fanwl ynghylch yr hawliau a’r cymorth addysgol sydd ar gael i blant a phobl ifainc sydd ag anghenion addysgol arbennig yma.

Isod mae rhestr o sefydliadau a all gynnig cyngor ac arweiniad ar AAA, cliciwch ar y dolennau i ymweld â’r adrannau perthnasol.

Adran y Ganolfan Cyngor ar Bopeth am Anghenion Addysgol Arbennig

Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth

Advice Now

Disability Rights UK

Mencap

The Mix

SENDirect

Scope

Where You Stand

Os nad wyt ti wedi dod o hyd i’r hyn rwyt ti’n chwilio amdano, ac os hoffet ti drafod unrhyw beth ymhellach, anfona e-bost at info@wicid.tv. Fel arall, gallet ti ofyn unrhyw beth i Nain Wicid!

CôD Ymddygiad Anghenion Addysgol Arbennig

Mae yna Gôd Ymddygiad ar gyfer anghenion addysgol arbennig sy’n darparu cyngor a chanllawiau ymarferol i Awdurdodau Addysg Lleol ysgolion a gynhelir a lleoliadau addysg gynnar er mwyn cyflawni eu dyletswyddau statudol.

Mae Côd Ymddygiad Anghenion Addysgol Arbennig yng Nghymru yn nodi:

 

Cynlluniau Pontio

Pan fydd gan blentyn ddatganiad anghenion arbennig, rhaid llunio Cynllun Trosglwyddo sy’n dod â’r holl wybodaeth angenrheidiol ynghyd er mwyn cynllunio ar gyfer datblygiad y person ifanc i fywyd oedolyn.

 

Trafnidiaeth

Gall plant a phobl ifainc sydd ag anghenion addysgol arbennig dderbyn cymorth oddi wrth yr Awdurdod Addysg Lleol er mwyn talu am gostau cludiant trwy gydol eu haddysg.

Trosolwg

Coleg

Bydd angen gwirio polisi dy Awdurdod Addysg Lleol, gan nad yw pob un yn darparu tacsis ar gyfer myfyrwyr anabl sy’n dymuno mynd i’r coleg.

Mae rhai colegau yn defnyddio arian o’r enw’r Gronfa Ariannol Wrth Gefn er mwyn helpu â chostau teithio ar gyfer myfyrwyr sydd ag anableddau.

Coleg Preswyl

Os wyt ti’n mynychu coleg preswyl arbenigol ac yn iau na 19 oed, yna bydd angen i ti wirio os yw’r Awdurdod Addysg Lleol yn fodlon talu am gludiant ar ddechrau ac ar ddiwedd y tymhorau ysgol.

Prifysgol

Os oes angen i ti gael tacsi er mwyn mynychu’r brifysgol, efallai bydd modd i ti wneud cais am Lwfans Myfyrwyr Anabl.

Cyllido Budd-Daliadau Anabledd

Os oes anabledd gen ti, mae’n bosib y byddi di’n gymwys i gael budd-daliadau. Mae yna nifer o reolau sy’n gymwys wrth wneud cais am fudd-daliadau, felly er mwyn dod o hyd i ragor o wybodaeth bydd angen cysylltu â’r Canolfan Byd Gwaith neu dy Weithiwr Cymdeithasol, os oes un gyda ti. 

Lwfans Byw i’r Anabl

Mae modd i ti wneud cais am Lwfans Byw i’r Anabl p’un ai wyt ti’n gweithio neu beidio. Mae plant ac oedolion yn gynwys.
Mae’r lwfans wedi’i rannu’n ddau rhan:

Efallai bydd rhai yn cael un rhan, ac eraill yn cael y ddau. Gall plant ifainc iawn dderbyn y budd-dal yma.

Analluogrwydd Ieuenctid

Cymhorthdal Incwm

Am ragor o wybodaeth ac i weld os wyt ti’n gymwys i dderbyn unrhyw fudd-daliadau anabledd, cliciwch yma

Anabledd Cymru

Llais A Dewis

Mae Llywodraeth Cymru a Chomisiynydd Plant Cymru yn meddwl y dylai plant ag anghenion addysgol arbennig gael hawl i apelio i Dribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru. Dylai fod gan blant yr hawl yma os ydy’r rhieni yn penderfynu peidio â gwneud eu hapêl eu hunain.

Mae gan blant a phobl ifainc sy’n byw yng Nghymru yr hawl i:

Mae’r apêl a’r hawliau yn debyg iawn i’r rhai sydd eisoes yn bodoli ar gyfer rhieni/cynhalwyr (gofalwyr). Dydy hyn ddim yn effeithio ar hawl y rhieni i wneud apêl neu hawliad. Yn syml, mae’n golygu bod gan blant yr un hawliau â’u rhieni / cynhalwyr i wneud eu hapêl neu hawliad eu hunain.

Mae’r gyfraith yn cydnabod na fydd pob plentyn yn teimlo bod digon o allu gannddyn nhw i wneud apêl neu hawliad. Yn y sefyllfa yma bydd ffrind achos yn gallu gweithredu ar ran y plentyn er mwyn gwneud apêl neu hawliad i ni yn y Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru (TAAAC).

Mae modd dod o hyd i wybodaeth ar gyfer pobl ifainc, rhieni/cynhalwyr a ffrindiau achos yn ein llyfrynnau canllaw. Mae modd lawrlwytho’r rhain trwy ddilyn y ddolen i dudalen we’r Tribiwnlys Anghenion Addysgol Arbennig Cymru: http://sentw.gov.uk/youngpeople/informationbooklets/?lang=cy

Cymorth Yn Ysgol

Mae nifer o ffyrdd gall ysgol rhoi cymorth i ti, gan ddibynnu ar beth sydd ei angen arnat ti. Efallai bydd angen i ti gael asesiad er mwyn i’r ysgol ganfod pa anghenion sydd gyda ti a sut y gallen nhw, neu bobl eraill, dy helpu di.

Gan ddibynnu ar dy amgylchiadau, efallai bydd angen i ti gael Datganiad Anghenion Addysgol Arbennig. Mae Côd Ymddygiad yng Nghymru sy’n amlinellu beth ddylai awdurdodau addysg lleol wneud pan fydd angen cymorth yn yr ysgol ar rywun.

Bydd y cymorth addysgol sydd ar gael yn amrywio, ond gall cynnwys:

Os wyt ti’n teimlo bod wir angen cymorth arnat ti gyda dy ddysgu yn yr ysgol yna mae angen i ti, neu riant, i siarad ag athrawon yn yr ysgol, neu i’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig.

Cymorth Personol Yn Yr Ysgol

Efallai bydd rhai disgyblion yn derbyn cymorth gofal personol.
Gallai hyn gynnwys:

Am ragor o wybodaeth: www.gov.uk/rights-disabled-person/education-rights

 

Cymorth Yn Coleg

Mae gan y mwyafrif o golegau gyrsiau sydd wedi cael eu paratoi i helpu pobl ifainc gydag anableddau i wella sgiliau sylfaenol, a dod yn fwy hyderus a rhoi cynnig ar amrywiaeth o gyrsiau ymarferol er mwyn dod o hyd i’r hyn yr hoffen nhw ei wneud.

Yn aml bydd gan y cyrsiau enwau fel Paratoad Galwedigaethol. Os wyt ti’n gwybod yn barod pa gwrs rwyt ti am wneud, ond bod angen cymorth arnat, mae modd i’r coleg wneud cais am gyllid er mwyn gweithredu’r cymorth.

Y math o gymorth a allai fod ar gael yw:

Siaradwch ag ymgynghorydd gyrfaoedd am y cymorth y gall fod ar gael yn y coleg.

Am ragor o wybodaeth: www.gov.uk/rights-disabled-person/education-rights

 

Cymorth Addysg Uwch

Os oes anghenion arbennig gyda ti a bod angen cymorth ychwanegol er mwyn caniatáu i ti fanteisio ar Addysg Uwch, efallai bydd angen i ti ystyried ffactorau eraill.

Bydd datganiad anabledd gan bob prifysgol ac aelod o staff sy’n gyfrifol am drefnu cymorth ar gyfer myfyrwyr ag anableddau. Pan fyddi di’n dewis prifysgol, dyma rai pethau y dylet ti eu hystyried:

LWFANS MYFYRWYR ANABL

Hawliau Anabledd DU

Colegau Preswyl Arbenigol

Bydd rhai pobl ifainc yn teimlo bod mynd i goleg lleol ar ôl gadael yr ysgol ddim yn ddewis addas iddyn nhw.

Mae colegau lleol yn cynnig ystod o gyrsiau a chymorth, ond weithiau does dim modd cynnig y cwrs gyda’r cymorth sydd ei angen. Yn yr achosion yma, efallai bydd person ifanc yn ystyried mynd i goleg oddi cartref. Gelwir y rhain yn golegau arbenigol. Mae hyn yn golygu bod staff wedi derbyn yr hyfforddiant priodol er mwyn cynnig lefel uchel o gymorth i bobl ifainc sydd ag anableddau.

Beth Os Ydw I’N Dymuno Mynd I Goleg Arbenigol?

Exit mobile version