YEPS

Gwirfoddoli

Rwyt ti’n wirfoddolwr pan fyddi di’n rhoi dy amser i wneud rhywbeth i achos da heb dâl. Fel gwirfoddolwr fedri di wneud cyfraniad enfawr i dy gymuned a chymdeithas.

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o ddod i gyfarfod pobl newydd, magu hyder, sgiliau a phrofiad.

Gallai roi syniad da i ti o sut beth ydy swydd neu yrfa benodol cyn i ti geisio am waith taledig. Gallai fod yn beth da i gael ar dy CV os wyt ti wedi rhoi dy amser rhydd i wneud rhywbeth buddiol a bydd darpar gyflogwyr yn gwerthfawrogi hyn. Yn aml mae elusennau a sefydliadau eraill angen cymorth gan wirfoddolwyr i wneud eu gwaith fel y gallant wella bywydau pobl eraill.

Os oes gen ti ddiddordeb mewn gwirfoddoli gallet ti gychwyn drwy feddwl faint o oriau gallet ti gynnig. Yna gallet ti feddwl am ba fath o wirfoddoli hoffet ti wneud a pa sgiliau a gwybodaeth sydd gen ti i gynnig

Exit mobile version