Etholiad Aelod o’r Senedd Ieuenctid

Mae aelodau Senedd Ieuenctid Cymru (ASIC) yn cynrychioli lleisiau pobl ifainc sy’n byw yn eu hardal mewn achlysuron cenedlaethol i wneud newidiadau cadarnhaol i ddyfodol pobl ifainc.

Dyma’r ymgeiswyr i fod yn Aelod o’r Senedd Ieuenctid RhCT eleni. Mae pob ymgeisydd wedi amlinellu eu rhesymau am ymgeisio a’r achosion maent yn angerddol amdano isod. Pleidleisiwch am eich dewis ar waelod y tudalen!

Leo Lanciotti 

“Hoffwn fod yn Aelod o’r Senedd Ieuenctid a chynrychioli Rhondda Cynon Taf gan fy mod i’n gweithio’n galed ac wrth fy modd yn gwrando ar adborth fy nghyfoedion. Rydw i am wneud RhCT yn gymuned fwy cynhwysol a chroesawgar ac rydw i’n gobeithio y bydd hyn yn un o’r ffyrdd i gyflawni hyn. Ar hyn o bryd rydw i’n aelod o’r Corfflu Cadetiaid Môr. Rydw i’n defnyddio hyn i ddod yn fwy aeddfed ac i ddatblygu fy ngallu i arwain. Rydw i eisiau bod yn esiampl i eraill yn y gymuned.”

Blaenoriaethau Leo:

  • Cynyddu nifer y clybiau ar ôl yr ysgol
  • Hyrwyddo cymuned gynhwysol
  • Cefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifainc

 

Sienna Dutfield 

“Mae gen i gysylltiad dwfn â’r gymuned a hoffwn weld y bobl yn ffynnu. Rydw i’n poeni am les fy ffrindiau, fy nheulu, a’r trigolion eraill sy’n haeddu gwell na’r mymryn lleiaf. Mae rhoi llais i’m cyfoedion yn arbennig o bwysig i mi gan ei bod hi’n amlwg bod llawer o faterion i fynd i’r afael â nhw. Hoffwn rannu’r mewnwelediad sydd gen i gyda’r rhai sydd ddim yn gwybod realiti fy myd a gwneud newid, waeth pa mor fach, a chwarae fy rhan i greu dyfodol mwy disglair.”

Blaenoriaethau Sienna:

  • Gwella cyfleusterau cymunedol
  • Lleihau troseddu a’i atal
  • Creu rhagor o leoedd i bobl ifainc
  • Cefnogi iechyd meddwl a lles pobl ifainc

 

Carys-Megan James 

 

“Hoffwn gael fy ystyried ar gyfer y rôl yma oherwydd rydw i am am gyfrannu cymaint ag y gallaf i wneud RhCT yn lle gwell. Mae ots gen i am beth sydd gan bawb i’w ddweud a’r ffordd mae pobl yn gallu lleisio eu pryderon a’u hawgrymiadau. Mae gen i brofiad yn y maes yma gan i mi gael fy newis yn brif swyddog fy ysgol a chredaf fy mod yn addas ar gyfer y rolau yma! Rydw i’n gallu gwneud penderfyniadau rhesymol yn effeithiol i weddu i bryderon pobl. Rydw i’n gobeithio y gallaf wneud hynny i bobl ifainc RhCT trwy’r rôl yma.”

Blaenoriaethau Carys-Megan:

  • Datblygu adnoddau iechyd meddwl wedi’u personoli ar gyfer pobl ifainc
  • Cefnogi grwpiau lleiafrifol yn RhCT
  • Mynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • Gwneud cymunedau’n fwy eco-gyfeillgar

 

Lowri Ellen Rutledge 

“Hoffwn gael fy ystyried yn aelod o’r senedd ieuenctid gan fy mod yn dymuno gwneud newid. Rydw i’n credu y dylid clywed lleisiau’r cenedlaethau iau. Rydw i’n teimlo bod pobl yn gallu ymddiried ynof i a mynegi eu barn. Mae’r ardal rydyn ni’n byw ynddi yn brydferth ac mae angen ei chadw fel y gall cenedlaethau’r dyfodol fod yn falch o’r lle maen nhw’n byw. Byddwn i wrth fy modd yn cael cyfle i gynrychioli pobl ifainc Cymru gan fy mod yn credu’n gryf bod gennyn ni’r hawl i godi a mynegi ein barn a’n pryderon.”

Blaenoriaethau Lowri:

  • Hyrwyddo cymunedau glanach a lleihau taflu sbwriel
  • Cynyddu nifer y clybiau ieuenctid sydd ar gael yn RhCT
  • Codi ymwybyddiaeth o’r newid yn yr hinsawdd a llygredd
  • Creu rhagor o gyfleoedd i bobl ifainc fynegi eu barn.

 

Pleidleisiwch dros eich ASIC yma!

*Noder, y dyddiad cau ar gyfer pleidleisio yw Rhagfyr 3ydd 2021*.

 

Rhywbeth i ddweud?