Yswyriant

Yswiriant

Os wyt ti’n mynd ar wyliau neu’n teithio, mae’n hanfodol dy fod ti’n cael yswiriant deithio. Felly, os bydd unrhyw beth yn digwydd i ti pan fyddi di oddi cartref, fydd dim rhaid i ti dalu am driniaeth feddygol. Os does dim yswiriant gyda ti ac os wyt ti’n cael damwain, gan ddibynnu ar ba wlad yw hi, efallai bydd triniaeth mewn ysbyty yn costio rhwng cannoedd o bunnoedd i filoedd o bunnoedd.

  • Gwna gais am Gerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd er mwyn sicrhau dy fod ti wedi diogelu os byddi di’n cael damwain neu’n mynd yn sâl wrth i ti deithio o fewn Undeb Ewropeaidd. Mae modd gwneud cais mewn swyddfa bost neu ar-lein.
  • Mae’n hawdd iawn i gael yswiriant teithio, naill ai ar-lein, mewn Swyddfa Bost neu mewn nifer o siopau neu fanciau. Yn aml dydy yswiriant ddim yn ddrud iawn, ac mae modd ei brynu am £5 yn unig am un daith.
  • Edrycha’n ofalus ar y print mân yn dy ddogfen yswiriant er mwyn sicrhau bod gan y cwmni yr holl wybodaeth sydd ei hangen. Gwiria hefyd yn union beth sydd wedi’i gynnwys yn yr yswiriant. Er enghraifft, rhaid i ti sôn wrth y cwmni yswiriant am unrhyw gyflyrau meddygol neu salwch blaenorol a allai effeithio ar y driniaeth rwyt ti’n ei derbyn.
  • Cadwa rif ffôn y cwmni yswiriant wrth law, er mwyn i ti allu cysylltu â’r cwmni mewn argyfwng.

Dylai polisi sylfaenol gynnwys yswiriant ar gyfer y canlynol:

  • Canslo – os oes rhaid i ti ganslo neu os oes rhywbeth yn torri ar draws dy wyliau.
  • Oediadau – dylet ti dderbyn iawndal os bydd dy awyren yn cael ei hoedi am fwy na 12 awr.
  • Bagiau ac eiddo personol – dylai’r yswiriant gynnwys hyd at £1500 os bydd dy fag yn cael ei golli, ei ddwyn neu ei ddifrodi.
  • Atebolrwydd personol – os wyt ti’n niweidio rhywun, er enghraifft, dylai’r yswiriant gynnwys costau o £1 miliwn os wyt ti’n teithio o amgylch Ewrop, a £2 filiiwn ledled y byd.
  • Cymorth brys – mae nifer o gwmniau yswiriant yn cynnig llinellau cymorth brys 24 awr.
  • Yswiriant meddygol.

Gwna’n siwr fod yr yswiriant yn para am gyfnod llawn y daith ac am unrhyw weithgareddau y byddi di’n dymuno gwneud. Dydy rhai gweithgareddau, megis sgïo jet, ddim yn cael eu cynnwys mewn polisïau cyffredinol.

Iechyd A Diogelwch

Mewn rhai gwledydd mae’n anodd iawn, neu’n ddrud iawn, i gael unrhyw driniaeth iechyd. Felly mae’n hynod bwysig dy fod ti’n  amddiffyn dy hun rhag unrhyw beryglon iechyd sydd yn y wlad rwyt ti’n  teithio iddi.

  • Cyn gadael, rhaid i ti sicrhau dy fod ti’n prynu yswiriant teithio dibynadwy sy’n dy amddiffyn di rhag anafiadau. Mae modd i ti gael hwn oddi wrth gwmni teithio neu gwmni annibynol. Mae manylion ar gael o’r adran Yswiriant Teithio (link)
  • Dylet ti wirio cyfeiriadur y Swyddfa Dramor a Chymanwlad am y wlad rwyt ti’n teithio iddi: uk
  • Os wyt ti’n cymryd meddyginiaeth, rhaid gwneud yn siwr bod digon gen ti a dylet ti wirio os oes modd i ti gael meddyginiaeth pan fyddi di mewn gwlad tramor.
  • Gwna gais am Gerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd er mwyn sicrhau dy fod ti wedi diogelu os byddi di’n cael damwain neu fynd yn sâl wrth i ti deithio.
  • Bydd angen i ti gael pigiadau er mwyn dy amddiffyn rhag clefydau mewn gwledydd eraill. Dylet ti gysylltu â dy feddyg i gael cyngor ar ba bigiadau sydd eu hangen arnat ti.

Diogelwch

  • Mae’n bwysig dy fod ti’n ystyried dy ddiogelwch pan fyddi di mewn gwlad tramor. Cymer gyngor a bydd yn synhwyrol pan fyddi di’n teithio. Defnyddia dy synnwyr cyffredin a phaid â chymryd risg os mae’n golygu byddi di dy hun mewn peryg.
  • Gwna gymaint o ymchwil ag sy’n bosib cyn teithio. Pryna lawlyfr da am y wlad, gwna ymchwil am y rheolau ac arferion. Hefyd, os oes modd, ceisia siarad â phobl sydd wedi bod i’r wlad yn y gorffenol.
  • Mae damweiniau ffyrdd ymhlith y peryglon iechyd mwyaf i deithwyr. Mae’r Gymdeithas dros Deithio Diogel ar Ffyrdd Rhyngwladol yn cynhyrchu Adroddiadau Teithio ar Ffyrdd mewn dros 130 o wledydd: Asirt. Efallai bydd yn syniad da i wirio’r safle os wyt ti’n bwriadu hurio cerbyd neu yrru yn ystod dy daith.
  • Bydd yn ofalus o’r hyn rwyt ti’n ei fwyta ac a’i yfed, yn enwedig mewn gwledydd poeth. Os wyt ti mewn gwlad lle nad yw’r dŵr tap yn addas i’w yfed, dylet ti brynu dŵr mewn potel.
  • Mae rhagor o fanylion yn yr adran Iechyd a Diogelwch o dan ‘Byw Tramor’ [link to 3d1 Health and Safety]

Rhywbeth i ddweud?