Cyflwyniad i Fis Hanes Pobl Dduon
Heddiw yw diwrnod cyntaf Mis Hanes Pobl Dduon 2021. Mae pobl o gefndiroedd Affricanaidd a Charibïaidd wedi bod yn rhan sylfaenol o hanes Prydain ers canrifoedd. Mae eu hetifeddiaeth yn amlwg i’w gweld yn niwylliant modern Prydain. Y mis yma rydyn ni’n dathlu’r unigolion yma a’u cyfraniadau i’n ffordd o fyw.
Trwy gydol mis Hydref bydd ein cyfres o erthyglau yn tynnu sylw at rai o’r lleisiau a’r cymeriadau Du pwysicaf yn hanes pobl Dduon. Mae yna lawer yn rhagor o bobl Ddu sydd wedi cael effaith annatod ar ein bywydau.
Mae gwreiddiau mis hanes pobl dduon yn mynd yn ôl i’r 1920au a sefydlu Wythnos Hanes Pobl Dduon (Negro History Week) yn yr Unol Daleithiau. Yn y DU fe’i lansiwyd yn Llundain yn yr 1980au, o ganlyniad i actifiaeth leol yn i gymuned a oedd yn herio hiliaeth cymdeithas Prydain a’r ddelfryd Ewropeaidd o hanes a oedd yn dominyddu system addysg y wlad.
Erbyn heddiw, mae Mis Hanes Pobl Dduon yn achlysur pwysig yng nghalendr diwylliannol llawer o amgueddfeydd, orielau ac awdurdodau lleol y DU. Rydyn ni’n annog pobl i ymchwilio ymhellach i hanes pobl Dduon a darganfod sut mae’r hanes yma’n berthnasol nid yn unig i bobl Dduon – mae’n rhan o hanes bob un ohonom o Gymru a Phrydain.
Mae modd i chi ddod o hyd i lawer o’r adnoddau yn ein llyfrgelloedd lleol.
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru