Pobl ifainc yn cael cyfle i ddweud eu dweud yn rhan o Gynhadledd Cam-drin Domestig RhCT

30 Medi 2026 | Llantrisant

Cymerodd dau berson ifanc o’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid, Lilly ac Alfie, ran yng Nghynhadledd Cam-drin Domestig gyntaf RhCT yn Llantrisant ar 30 Medi. Cawson nhw gyfle i rannu eu meddyliau a’u safbwyntiau nhw yn rhan o sgwrs bwysig am gam-drin domestig, perthnasoedd iach a chreu cymunedau mwy diogel.

Siaradodd Lilly ac Alfie yn y gynhadledd, gan ddweud eu dweud ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol, partneriaid a sefydliadau o bob cwr o Rondda Cynon Taf.

Roedd y gynhadledd hefyd yn cynnwys cyflwyniad pwerus gan Ruth Dodsworth OBE, a rannodd ei phrofiad personol o gam-drin domestig a’r effaith y mae modd i gam-drin domestig ei chael.

Roedd cyfraniadau Lilly ac Alfie yn hynod bwerus ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd rhoi cyfle i bobl ifainc siarad am faterion a all effeithio ar eu bywydau, eu cyfoedion a’u cymunedau.

Daeth y gynhadledd â phobl ynghyd i drafod sut mae modd i ni weithio gyda’n gilydd i atal cam-drin domestig, herio agweddau ac ymddygiadau niweidiol, a hyrwyddo perthnasoedd iach, parchus a chyfartal.

Mae sicrhau bod gan bobl ifainc gyfleoedd i gymryd rhan, rhannu eu barn a dylanwadu ar sgyrsiau pwysig yn rhan allweddol o waith y Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid.

Rydyn ni’n falch iawn o Lilly ac Alfie am fod yn ddigon hyderus a dewr i siarad mewn achlysur mor bwysig ac am ddangos yr effaith y mae modd i leisiau pobl ifainc ei chael.

Mae lleisiau pobl ifainc yn bwysig – ac maen nhw’n haeddu cael eu clywed.

👉 Os ydych chi’n profi cam-drin domestig, neu’n poeni am rywun arall, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Dysgwch ragor am y cymorth sydd ar gael i chi yma: http://www.rctcbc.gov.uk/cam-drinynycartref

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl