YEPS

Polisi Defnydd Derbyniol

Mae’r polisi defnydd derbyniol hwn yn cyflwyno’r telerau rhyngoch chi a ni sy’n caniatáu i chi gyrchu at ein gwefan www.clicarlein.co.uk (ein safle). Mae’r polisi defnydd derbyniol hwn yn berthnasol i bob defnyddiwr ac ymwelydd i’n safle.

Mae eich defnydd o’n safle yn golygu eich bod yn derbyn, yn cytuno i gadw at, yr holl bolisïau yn y polisi defnydd derbyniol hwn, sy’n ychwanegu at ein terms of website use.

DEFNYDDIAU GWAHARDDEDIG

Gallwch ddefnyddio ein safle i bwrpasau cyfreithiol yn unig. Ni allwch ddefnyddio ein safle:

RYDYCH HEFYD YN CYTUNO:

GWASANAETHAU RHYNGWEITHIOL

Gallwn o bryd i’w gilydd ddarparu gwasanaethau rhyngweithiol ar ein safle, gan gynnwys heb gyfyngiad:

Lle rydym yn darparu unrhyw wasanaeth rhyngweithiol, byddwn yn rhoi gwybodaeth glir i chi am y math o wasanaeth a gynigir, a yw’n cael ei safoni a pha fath o safoni a ddefnyddir (gan gynnwys a yw’n ddynol neu yn dechnegol).

Byddwn yn gwneud ein gorau i asesu unrhyw risgiau posibl i ddefnyddwyr (ac yn arbennig i blant) oddi wrth drydydd parti pan fônt yn defnyddio unrhyw wasanaethau rhyngweithiol a ddarperir ar ein safle, a byddwn yn penderfynu ym mhob achos a yw’n briodol safoni’r gwasanaeth perthnasol (gan gynnwys pa fath o safoni i’w ddefnyddio) yng ngoleuni’r risgiau hynny. Ond nid ydym o dan unrhyw rwymedigaeth i oruchwylio, monitro na safoni unrhyw wasanaeth rhyngweithiol a ddarparwn ar ein safle, ac rydym yn allgau yn benodol ein cyfrifoldeb am unrhyw golled neu ddifrod yn deillio o ddefnyddio unrhyw wasanaeth rhyngweithiol gan ddefnyddiwr yn groes i’n safonau cynnwys, p’run ai yw’r gwasanaeth wedi ei safoni neu beidio.

Mae’r defnydd o unrhyw rai o’n gwasanaethau rhyngweithiol gan blentyn yn ddarostyngedig i ganiatâd rhiant neu warcheidwad. Rydym yn cynghori rhieni sy’n caniatáu i’w plant ddefnyddio gwasanaeth rhyngweithiol ei bod yn bwysig eu bod yn cyfathrebu gyda’u plant am eu diogelwch ar-lein, oherwydd nad yw canoli yn gweithio bob tro. Dylai plant sy’n defnyddio unrhyw wasanaeth rhyngweithiol fod yn ymwybodol o’r risgiau posibl iddynt.

Lle rydym yn safoni gwasanaeth rhyngweithiol, byddwn fel arfer yn rhoi dull i chi o gysylltu â’r safonwr, pe bai pryder neu anhawster yn codi.

SAFONAU CYNNWYS

Mae’r safonau cynnwys hyn yn berthnasol i unrhyw ddeunydd ac i’r holl ddeunydd a gyfrannwch at ein safle (cyfraniadau), ac at unrhyw wasanaethau rhyngweithiol sy’n gysylltiedig ag ef.

Rhaid i chi gydymffurfio ag ysbryd y safonau canlynol yn ogystal â’r llythyren. Mae’r safonau yn berthnasol i bob rhan o unrhyw gyfraniad yn ogystal ag i’w gyfanrwydd.

Rhaid i gyfraniadau:

RHAID I GYFRANIADAU BEIDIO Â:

ATAL A THERFYNU

Byddwn yn penderfynu yn ein doethineb a dorrwyd y polisi defnydd derbyniol hwn drwy eich defnydd o’n safle. Pan fo’r polisi hwn wedi ei dorri, gallwn gynnig pa bynnag gam y tybiwn sy’n briodol.

Mae methu â chydymffurfio â’r polisi defnydd derbyniol hwn yn gyfystyr â thorri’r terms of use a ddefnyddir i ganiatáu i chi ddefnyddio ein safle, a gall arwain at gymryd pob un neu unrhyw rai o’r camau canlynol:

Nid ydym yn cynnwys cyfrifoldeb am weithredoedd a gymerir mewn ymateb i dorri’r polisi defnydd derbyniol hwn. Nid yw’r ymatebion a ddisgrifir yn y polisi hwn yn gyfyngedig, a gallwn gymryd unrhyw gamau eraill a dybiwn sy’n rhesymol o ymarferol.

NEWIDIADAU I’R POLISI DEFNYDD DERBYNIOL

Gallwn ddiwygio’r polisi defnydd derbyniol hwn unrhyw bryd drwy ddiwygio’r dudalen hon. Disgwylir i chi wirio’r dudalen hon o bryd i’w gilydd i roi sylw i unrhyw newidiadau a wnawn, oherwydd maent yn eich rhwymo’n gyfreithiol. Gall rhai o’r darpariaethau a gynhwysir yn y polisi defnydd derbyniol hwn gael eu disodli hefyd gan ddarpariaethau neu hysbysiadau a gyhoeddir mewn mannau eraill ar ein safle.

Exit mobile version