Yn tynnu sylw pob carwr gorsafoedd radio! Mae’r orsaf radio coleg lleol cyntaf erioed wedi cael ei lansio.
Dyma ychydig am Bullet Radio ei hun.
Mae Bullet Radio yn orsaf radio coleg sydd wedi’i sefydlu ym mhrif gampws Coleg Penybont. Mae’r orsaf radio yn orsaf radio ar-lein fel gorsafoedd fel GTFM, Dapper FM a Rhondda Radio. Mae’n chwarae cerddoriaeth ar gyfer pob categori oedran o gerddoriaeth siart heddiw yn ôl at yr hen glasuron.
Mae’r orsaf yn cael ei redeg gan fyfyrwyr o wahanol gyrsiau yn y coleg sydd yn rhoi’u hamser sbâr i gyflwyno’r sioeau ar yr awyr neu i gyn-recordio sioe yn barod i’w roi ar yr awyr yn yr wythnosau sydd i ddod.
Cyn i’r radio fynd yn fyw ar ddiwedd mis Ionawr 2014, roedd yn cael ei ddarlledu i mewn i ystafell gyffredin yn y campws Penybont gyda myfyrwyr o’r cyrsiau Celf Perfformio, Cyfryngau ac amrywiaeth o gyrsiau eraill yn creu sioeau awr eu hunain neu efallai sioeau 2 awr yn eu hamser cinio neu gyfnodau rhydd.
Mae myfyrwyr Cynhyrchu Cyfryngau Creadigol Lefel 3 Coleg Penybont, wedi ymroddi’u hamser sbâr i wirfoddoli fel rheolwyr stiwdio Bullet Radio.
Felly, os wyt ti yng Ngholeg Penybont neu’n gerddor neu’n fand ac eisiau arddangos dy dalent, yna gyrra dy gerddoriaeth i’r ddolen ganlynol:
https://docs.google.com/forms/d/1Ld2-DzyzTSWhimbAeR1YgretDCMH2P-0Q9wVZHwzY40/viewform
Neu i wrando ar Bullet Radio clicia’r dolenni isod:
http://bulletradio.co.uk/newPlayer/player.php
http://tunein.com/radio/Bullet-Radio-s218555/
(Hefyd gall wrando arno ar yr app Tune In ar y mwyafrif o ffonau, dim ond i ti lawrlwytho’r app.)
www.facebook.com/bulletradiobridgend
Delwedd: eauc
Erthygl Berthnasol: I’m Not Impressed By The Radio
Rhywbeth i ddweud?
Rhaid mewngofnodi i bostio sylwadau
Mewngofnodi Cofrestru