System Gyfan, Calon Gyfan

Cysylltodd Arweinydd NYTH Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg â Swyddogion Lles Ieuenctid – Gorllewin Taf-elái, er mwyn helpu i lansio System Gyfan, Calon Gyfan – ei strategaeth ranbarthol newydd i blant. Mae lleisiau ac anghenion plant a phobl ifainc wrth galon y strategaeth yma ac er mwyn eu helpu nhw i ddod â’r strategaeth yn fyw, mae ein pobl ifainc wedi creu 30 darn o gelf yn ystod sesiynau clwb ieuenctid. Mae’r gwaith celf yn dangos meddyliau, teimladau ac emosiynau pobl ifainc, ac roedd yn rhan weladwy a phwerus o’r achlysur lansio ar 21 Tachwedd. Daeth y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i’r achlysur, ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r Strategaeth System Gyfan, Calon Gyfan yn ymwneud â phobl ledled ardal Cwm Taf yn gweithio gyda’i gilydd gyda chalon gyfan a meddwl agored er mwyn sicrhau newidiadau go iawn. Y nod yw gwella sut mae gwasanaethau iechyd a gofal a gwasanaethau cymunedol yn rhoi cymorth i blant a phobl ifainc, ac mae Carfan Gorllewin Taf-elái yn falch o fod wedi cymryd rhan yn y gwaith o helpu ein pobl ifainc i sicrhau bod eu lleisiau yn cael eu clywed.

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl