YEPS

Clwb Ieuenctid Llanhari

Clwb Ieuenctid Llanhari yn rhedeg ar Ddydd Mawrth a Dydd Mercher o 5:45pm – 8:00pm 

Ymunwch â ni yng Nghlwb Ieuenctid Llanhari ddydd Mawrth a dydd Mercher rhwng 5:45pm – 8:00pm!

Mae’r Clwb Ieuenctid yn neuadd fynediad, cegin, a phrif neuadd. Mae toiledau wrth y neuadd fynediad ac maent yn gymysg (er mai dim ond un rhyw sy’n defnyddio’r toiled ar y tro).

Os byddwch chi’n mynychu ddydd Mawrth a dydd Mercher, byddwch chi’n cwrdd â’r tîm cyfan: Andrew, Amy, Nichola, Ceri, Ceryn a Liam.

Rydym ar agor o 5.45pm i 8pm. Mae croeso i chi adael a dychwelyd i’r ddarpariaeth yn ystod y sesiwn.

Gallwch hefyd gymryd rhan yn ein gweithgareddau Celf a Chrefft gyda thiwtor proffesiynol o 6pm i 7.30pm bob dydd Mawrth a dydd Mercher.

Edrychwch ar ein rhaglen weithgareddau am wybodaeth am weithgareddau (yn amodol ar newid). Ewch i: Pethau i’w Gwneud > Taf-elái (Gorllewin) > Ysgol Gyfun Y Pant/Ysgol Llanhari am ragor o wybodaeth. Gwelwn ni chi cyn bo hir!

Beth i’w ddisgwyl ar eich ymweliad cyntaf?

Mae mynedfa’r Clwb Ieuenctid ym mlaen yr adeilad ac mae ramp ar gael o faes parcio bach. Byddwch yn cwrdd ag un o staff YEPS wrth y drws i gofrestru. Os ydych chi o dan 18 oed ac nad ydych chi wedi bod yno o’r blaen, byddwn yn rhoi un ffurflen i chi ei llenwi eich hun a ffurflen ganiatâd i’w chymryd adref i’ch rhieni/gofalwyr. Os ydych chi dros 18 oed, gallwch chi lofnodi eich un eich hun.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

📍 Llanhari Community Centre, Pontyclun, CF72 9LF

Exit mobile version