YEPS yn Lansio Podlediad Newydd Sbon: Mae Episod 1 yn Fyw!

Rydym yn gyffrous i gyhoeddi rhywbeth hollol newydd ar gyfer YEPS — mae ein podlediad ni wedi lansio’n, ac mae Epsiod 1 nawr yn fyw!

Mae’r gyfres newydd hon yn rhoi lle ffres i bobl ifanc ar draws RhCT archwilio pynciau go iawn, straeon go iawn, a phrofiadau go iawn. Bydd pob epsiod yn cynnwys lleisiau o’n cymunedau, gwesteion arbennig, a thîm YEPS, i gyd yn dod at ei gilydd i siarad am y pethau sydd bwysicaf i bobl ifanc heddiw.

Beth sydd yn Episod 1?

Yn ein pennod gyntaf, rydym yn plymio i mewn i:

  • Cyflwyniad i’n cyflwynwyr gwych – Robyn a Lilly May
  • Beth yw pwrpas y podlediad
  • Pam rydym yn ei greu
  • Beth all pobl ifanc disgwyl yn episods yn yr dyfodol

Dyma’r cyflwyniad perffaith i’r daith rydym yn ei dechrau — wedi’i chreu gyda phobl ifanc ac ar gyfer pobl ifanc.

Pam Podlediad?

Dywedodd pobl ifanc wrthym eu bod eisiau mwy o ffyrdd i rannu eu lleisiau, eu barn a’u syniadau. Felly fe wnaethon ni wrando. Mae’r podlediad hwn yn llwyfan ar gyfer:

  • Sgyrsiau gonest
  • Mynegiant creadigol
  • Pynciau dan arweiniad pobl ifanc
  • Dathlu cyflawniadau ar draws RhCT

Ble i Wylio

Mae Episod 1 ar gael nawr ar YouTube – ac wrth gwrs, yma ar yeps.wales.

Dim ond y dechrau yw hwn. Allwn ni ddim aros i chi glywed beth sy’n dod nesaf.

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl