Fy Nhaith YEPS: Magu Hyder a Chreu Cyfleoedd

Fy enw i yw Robyn Charley, dwi’n 14 oed ac yn blwyddyn 10 yn Ysgol Gyfun Cwm Rhondda. Dwi wedi bod yn mynd i YEPS ers dechrau Blwyddyn 7, ac ers hynny dwi wedi cael cyfle i wneud llawer o bethau gwych. Rhai o’r pethau gorau dwi wedi’u gwneud yw cyflwyno digwyddiad dathlu YEPS yn 2025 ac yn 2026. Dwi hefyd un o’r gyflwynwyr podlediad YEPS – YepsCast.

Dwi’n mynd i glybiau ieuenctid  Ynyshir, Glynrhedynog ac weithiau Aberpennar. Dwi’n mwynhau mynd i’r clybiau achos mae’n rhoi cyfle i fi siarad gyda gweithwyr ieuenctid nad ydw i’n eu gweld yn yr ysgol. Dwi hefyd wrth fy modd yn gweld fy ffrindiau a chwarae gemau fel y Lion Challenge neu bŵl.

Dwi’n mwynhau mynd ar y teithiau hefyd, achos maen nhw’n rhoi cyfleoedd newydd i fi ac yn fy helpu i gymdeithasu gyda phobl ifanc eraill. Fy hoff daith yw Winter Wonderland, ac rydw i wedi mynd pob blwyddyn. Dwi’n gobeithio mynd eto eleni!

Yn fy marn i, mae YEPS yn ffordd wych o dod o’ch cragen, magu hyder a rhoi cynnig ar bethau newydd. Byddwn i’n dweud wrth unrhyw un sy’n ystyried ymuno â YEPS i fynd amdani. Mae YEPS wedi newid fy mywyd er gwell, a dwi ddim yn gwybod ble byddwn i heddiw hebddi.

GOT SOMETHING TO SAY?

All Articles