Mae Rhaglen Haf YEPS yn ôl, gan ddod â rhaglen lawn o weithgareddau, digwyddiadau, teithiau, gweithdai a phrosiectau cymunedol AM DDIM i chi ledled RhCT.
P’un a ydych chi’n hoff o chwaraeon, cerddoriaeth, gemau, celf, lles, gwirfoddoli, neu ddim ond eisiau cwrdd â phobl newydd a chael hwyl, mae rhywbeth i bawb.
Dyma’r cyfle perffaith i roi cynnig ar rywbeth newydd, dysgu sgiliau newydd, meithrin eich hyder a gwneud effaith gadarnhaol yn eich cymuned. Gyda phopeth o ddigwyddiadau untro i brosiectau cymunedol hirach, mae digon i gymryd rhan ynddo drwy gydol yr haf.
Cymerwch olwg ar yr hyn sy’n digwydd yn eich ardal chi isod a bwciwch eich lle heddiw. Rydym yn ychwanegu gweithgareddau newydd yn rheolaidd, felly yn ôl yn rheolaidd —fyddwch chi ddim eisiau colli allan!





