Perthnasau

Bydd yr adran yma yn edrych ar y perthnasau gwahanol sydd gennym ni yn ein bywydau; perthnasau teulu, cariadon, ffrindiau a phobl eraill rwyt ti’n eu hadnabod.

Er y gall perthnasau o bob math ddod â llawer o hapusrwydd a bodlondeb i ni, gall hefyd achosi gwrthdaro a phroblemau, ond mae’n bwysig cofio bod hyn yn gwbl normal.

Mae bod yn amyneddgar a dealltwriaeth o unrhyw wahaniaethau a allai fod gen ti yn allweddol i ddatrys anhapusrwydd a chynnal perthnasau da. Ar ben hynny, mae’n bwysig i gael sgyrsiau gonest ac agored gyda’ch gilydd er mwyn trafod unrhyw bryderon.

Yn hytrach na gofidio am rywbeth ar dy ben dy hun, efallai bydd yn ddefnyddiol i ti fynd at rywun y gallet ti ymddiried yhnddo/ynddi er mwyn cael cymorth a chyngor os fydd pethau ddim yn dda.

Bydd yr adran yma yn rhoi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad ynghylch y bobl sydd yn eich bywyd. Rydyn ni wedi ceisio ateb cymaint o gwestiynau â phosib, ond os wyt ti’n teimlo bod cwestiynau pellach gyda ti, croeso i ti ofyn i Nain Wicid.

Rhywbeth i ddweud?