Amdanom Ni

Pwy yw YEPS?

Mae’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) yn darparu’r Gwasanaeth Ieuenctid statudol ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Caiff y gwasanaeth yma ei ddarparu gan weithlu o staff cymwys sy’n cynnwys gweithwyr yn yr ysgol, gweithwyr ieuenctid yn y gymuned, carfanau gwaith ieuenctid arbenigol a staff rhan-amser medrus.
Cliciwch yma i gwrdd â’n tîm.

Beth ni’n wneud

Mae YEPS yn cynnig mynediad i amrywiaeth o weithgareddau AM DDIM ar draws nifer o ysgolion a lleoliadau ieuenctid i bobl ifainc rhwng 11 a 25 oed.  Mae’r rhain yn cynnwys gweithgareddau ar ôl ysgol a chlybiau ieuenctid. Ar hyn o bryd mae clybiau ieuenctid yn rhedeg rhwng 6pm ac 8pm o ddydd Llun i ddydd Gwener. A thithau’n berson ifanc mae modd i ti gymryd rhan trwy weld dy weithiwr YEPS mewn ysgolion, colegau, neu drwy’r wefan.
Mae YEPS yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i bobl ifainc , un-i-un (gwaith atgyfeirio) a/neu sesiynau grŵp. 

Dyma’r hyn mae YEPS yn ei gynnig:

  • Gwaith ieuenctid yn yr ysgol
  • Cefnogaeth benodol i blant 16 oed ac hŷn
  • Ymyriadau Iechyd Meddwl a Lles
  • Cyngor ac Arweiniad ar ddigartrefedd
  • Gwaith pontio Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant
  • Sesiynau yn seiliedig ar hawliau
  • Gweithgareddau yn y gymuned gan gynnwys clybiau ieuenctid, fan ieuenctid symudol, sesiynau ar y stryd, teithiau gwyliau ysgol a sesiynau galw heibio yn y gymuned

Cwrdd â Chriw YEPS

Carfan Ymgysylltu â’r Gymuned ac Ysgolion 

19 Swyddog Ymgysylltu Ieuenctid – 17 ym mhob ysgol uwchradd a 2 arall yn y gymuned, er mwyn rhoi cymorth i bobl ifainc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, a’r rhai sy’n cael eu haddysg heblaw mewn ysgolion prif ffrwd. 

  • Cymorth un-wrth-un i bobl ifainc mewn ysgolion 
  • Cymorth i nodi meysydd angen y bobl ifainc sy’n cael eu cyfeirio at YEPS. Datblygu cynllun gweithredu i gefnogi’r meysydd yma i wella cydnerthedd a lles pobl ifainc 
  • Rhoi cymorth i bobl ifainc fanteisio ar wasanaethau eraill (Barod, Iechyd Rhywiol ac asiantaethau arbenigol eraill) 
  • Seisynau Galw Heibio Amser Cinio yn yr ysgol i roi cyngor, arweiniad a gwybodaeth 
  • Gweithgareddau ôl-oriau ysgol  
  • Prosiectau yn seiliedig ar broblemau  

Swyddogion Ymgysylltu a Chynnydd Ieuenctid  

  • 4 swyddog yn y gymuned  
  • Darparu cymorth un-wrth-un i bobl ifainc 16 i 25 oed  
  • Darparu cymorth un-wrth-un i bobl ifainc sy’n mynychu ysgolion arbennig ledled RhCT 
  • Darparu cymorth i bobl ifainc sy’n cael eu haddysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) 
  • Cyflwyno gweithdai sy’n seiliedig ar bryderon a sesiynau galw heibio mewn colegau i roi gwybodaeth, cyngor ac arweiniad 
  • Darparu cymorth mewn ysgolion, colegau, lleoliadau yn y gymuned, sesiynau ar y strydoedd a thrwy ymweld â chartrefi’r bobl ifainc  
  • Darparu prosiectau yn y gymuned. Mae prosiectau’n amrywio yn seiliedig ar anghenion y gymuned  
  • Cyflwyno pedwar fforwm ieuenctid lleol – Cydraddoldeb ac Amrywiaeth, Cymunedau Diogel, Iechyd Meddwl a’r Amgylchedd a Chynaliadwyedd

6 Chydlynydd Ymgysylltu Arlwy Ieuenctid yn y Gymuned (CYCIG) 

Mae pob CYCIG yn gyfrifol am ardal benodol yn Rhondda Cynon Taf ac yn arwain y gwaith o gydgysylltu holl raglenni gweithgareddau YEPS gan gynnwys: 

  • Gweithgareddau Gwaith Ieuenctid mewn ysgolion 
  • Rhaglenni Pontio 
  • Rhaglenni gwaith ieuenctid yn y gymuned 
  • Clwb ieuenctid a darpariaeth ar y strydoedd 
  • Club Fusion 
  • Rhaglen o weithgareddau a theithiau yn ystod gwyliau’r ysgol  
  • Y Fan Ieuenctid Symudol  

Byddwch â’ch bys ar y botwm trwy gadw llygad ar yr adran Be sy ‘Mlaen ar ein gwefan a’n sianeli cyfryngau cymdeithasol. Yno cewch wybod yr wybodaeth ddiweddaraf am yr holl weithgareddau sy’n digwydd yn eich ardal. 

Swyddogion Iechyd Meddwl a Lles  

  • 5 swyddog yn y gymuned  
  • Darparu cymorth un-wrth-un i bobl ifainc ag anghenion iechyd meddwl  
  • Mae cymorth yn cael ei ddarparu mewn ysgolion, lleoliadau yn y gymuned, sesiynau ar y strydoedd a thrwy ymweld â chartrefi’r bobl ifainc  
  • Darparu hyfforddiant i bobl ifainc fel eu bod nhw’n hyddysg am faterion iechyd meddwl  
  • Darparu prosiectau yn y gymuned. Mae prosiectau’n amrywio yn seiliedig ar anghenion y gymuned  
  • Cynorthwyo fforymau ieuenctid lleol â materion iechyd meddwl gan gynnwys cyfleoedd i hyfforddi ac i ddatblygu prosiectau  
  • Darparu gwybodaeth ar-lein i roi cymorth i bobl 

Gweithwyr Cymorth Pontio  

  • 4 swyddog yn y gymuned 
  • Darparu cymorth wedi’i deilwra i bobl ifainc rhwng 16 a 25 oed sydd mewn perygl o droi eu cefnau ar addysg, cyflogaeth neu hyfforddiant, neu sydd eisoes wedi gwneud hynny  
  • Darparu cymorth un-wrth-un a chymorth grŵp ar gyfer hyfforddiant teithio 
  • Darparu gwybodaeth ac arweiniad cyn ymgysylltu i godi lefelau cymhelliant, hyder a hunan-barch 
  • Cyflwyno prosiectau sgiliau cyflogadwyedd fel ysgrifennu CV, technegau cyfweld, gweithio’n rhan o garfan, ac ati 
  • Bod yn gefn i bobl ifainc er mwyn iddyn nhw oresgyn y rhwystrau maen nhw’n eu hwynebu fel bod modd iddyn nhw fanteisio ar gyfleoedd addysg, cyflogaeth a hyfforddiant 

Swyddog Digartrefedd Ieuenctid 

  • 1 swyddog yn y gymuned 
  • Darparu cymorth un-wrth-un i bobl ifainc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref  
  • Mae cymorth yn cael ei ddarparu mewn ysgolion, lleoliadau yn y gymuned, sesiynau ar y strydoedd a thrwy ymweld â chartrefi’r bobl ifainc  
  • Darparu hyfforddiant i bobl ifainc i’w haddysgu am faterion digartrefedd 
  • Darparu prosiectau yn y gymuned ac mewn ysgolion i wella sgiliau pobl ifainc i fyw’n annibynnol   
  • Darparu ymyriadau trwy gymorth wedi’i dargedu’n gynnar. Mae’r cymorth yma’n cynnwys helpu i addysgu pobl ifainc, eu teuluoedd ac asiantaethau eraill, am wir effeithiau digartrefedd ymhlith pobl ifainc, ac i roi gwybodaeth a chyngor 

Swyddog Addysg Ieuenctid – Digartrefedd 

  • 1 swyddog yn y gymuned 
  • Datblygu a chyflwyno pecyn cymorth sgiliau byw’n annibynnol i bobl ifainc gyda’r nod o’u galluogi i fyw’n annibynnol yn y pen draw 
  • Datblygu a darparu pecynnau cymorth ar gyfer pobl ifainc sydd mewn perygl o fod yn ddigartref a phecynnau ymyrraeth gynnar ar gyfer pobl ifainc â rhai ffactorau risg, sy’n eu gwneud nhw’n fwy tebygol o fod yn ddigartref yn y dyfodol 
  • Datblygu a chyflwyno pecynnau dysgu achrededig i uwchsgilio pobl ifainc 16 i 25 oed 
  • Cydweithio’n agos â chydweithwyr yn y sector tai i fynd i’r afael ag effaith digartrefedd ar bobl ifainc 16 i 25 oed 

Swyddog Datblygu Digidol  

  • Yn gyfrifol am wefan YEPS www.yeps.wales gan ddarparu gwybodaeth o safon i bobl ifainc ar nifer o bynciau a’r system archebu ar-lein ar gyfer gweithgareddau YEPS  
  • Gofalu am lwyfannau cyfryngau cymdeithasol YEPS – Facebook / Instagram / You Tube gan roi gwybod i’r cyngor am holl weithgareddau / cyfleoedd YEPS 
  • Yn gyfrifol am ap YEPS – lawrlwythwch nawr!  
  • Edrych ar gyfleoedd creadigol newydd i ennyn diddordeb pobl ifainc 
  • Gweithio gyda phartneriaid i rannu gwybodaeth allweddol ar gyfer gwasanaethau i bobl ifainc   

Swyddog Cyfathrebu a Hawliau  

  • Rhedeg ein rhaglen Golygyddion Ieuenctid sy’n hyfforddi pobl ifainc i ffilmio cipolwg o’n gweithgareddau/arlwy ieuenctid. Hyrwyddo’r gwaith cadarnhaol y mae pobl ifainc yn ei wneud yn RhCT  
  • Trafod â RhCT/ysgolion/grwpiau yn y gymuned er mwyn cynnal Fforwm Ieuenctid Sirol RhCT  
  • Cynorthwyo â datblygiad Aelod Seneddol Ieuenctid RhCT  
  • Cynorthwyo â chyflwyniad a chanfyddiadau’r ymgyrch ‘Gwnewch eich Marc’  
  • Darparu cyfleoedd i bobl ifainc fod yn effro i’w hawliau 
  • Cynnal rhaglen arolygwyr ieuenctid i sicrhau bod darpariaeth yn cael ei chymeradwyo/yn diwallu’r safonau ar gyfer pobl ifainc/darparu argymhellion ar gyfer newid   

Swyddogion Cymorth Ymgysylltu (SCY) 

  • Ymgysylltu â phobl ifainc 11-25 oed 
  • Staff rhan amser sydd fel arfer yn gweithio gyda’r hwyr 
  • Gweithio ledled RhCT 
  • Rhoi cymorth i staff amser llawn ar sut i ddarparu gwasanaethau YEPS 
  • Ymwneud â phob math o ddarpariaeth gan gynnwys clybiau ieuenctid, sesiynau ar y strydoedd, teithiau, gweithgareddau, a phrosiectau  
  • Gallu arwain ar sesiynau pryderon gyda phobl ifainc sydd wedi’u nodi 
  • Darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i bobl ifainc yn ystod gwaith wyneb yn wyneb 

Y print mân (ond yn fwy o faint!)

Caiff YEPS.wales a YEPS eu cefnogi a’u hariannu gan Lywodraeth Cymru er mwyn gweithio â phobl ifainc rhwng 11 a 25 oed yn Rhondda Cynon Taf.

Rydyn ni’n cymryd diogelwch ar-lein a diogelu plant o ddifrif. Bydd unrhyw sylwadau sy’n cael eu cyhoeddi ar y wefan, neu unrhyw rwydweithiau cymdeithasol sy’n gysylltiedig â YEPS.Wales a YEPS yn cael eu gwirio. Fydd sylwadau/negeseuon amhriodol ddim yn cael eu cyhoeddi’n fyw.

Byddwn ni’n mynd ati i frwydro yn erbyn pob math o fwlio a gwahaniaethu a rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth â’r Heddlu i ddiogelu plant a phobl ifanc yn erbyn ecsbloetio ar-lein ac rydyn ni’n annog ein haelodau, defnyddwyr ac ymwelwyr â’r wefan i roi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau drwy fotwm CEOP ar waelod yr hafan.

Rydyn ni’n cadw’r hawl i dynnu unrhyw gynnwys o’r wefan neu gyfrifon cyfryngau cymdeithasol; a gwrthod cyhoeddi unrhyw gynnwys newydd, os yw’n torri canllawiau cymunedol y wefan. Efallai byddwn ni’n diwygio neu rwystro eich cyfrif heb rybudd os ydych yn torri’r canllawiau cymunedol.

Ni allwn dderbyn cyfrifoldeb am unrhyw golled ddata ar y safle neu ar gyfer cynnwys y safleoedd allanol yr ydych chi wedi defnyddio drwy ddolenni ar y wefan hon neu ein cyfrifon cyfryngau cymdeithasol.

Rydyn ni’n ymrwymo i gadw eich data personol yn ddiogel ac i roi gwybod sut rydyn ni’n defnyddio eich gwybodaeth. I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut rydyn ni’n cadw eich data yn breifat cliciwch YMA a I gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â sut rydyn ni’n defnyddio eich data personol cliciwch YMA.