Cyfarfodydd Fforwm Ieuenctid

Mae YEPS wedi ymrwymo’n llwyr i gefnogi pobl ifanc yn RhCT i gael llais yn eu cymuned a gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i ble maen nhw’n byw ac i’r rhai o’u cwmpas. Ein nod yw gwneud hyn gyda 3 fforwm ieuenctid lleol yn Rhondda, Cynon a Taf y gallwch nawr ymuno â nhw.

Os ydych rhwng 11 a 25 oed ac yn byw yn RhCT gallwch fod yn rhan o un o’n Fforymau Ieuenctid a gweithio ar brosiectau cymunedol, gwasanaethau cefnogi sy’n mynd i’r afael â materion allweddol a derbyn hyfforddiant a all helpu gyda sgiliau hanfodol ar gyfer y dyfodol. Yn bwysicach, gallwch CHI ddweud eich dweud ar yr hyn sy’n digwydd lle rydych chi’n byw ac ar y penderfyniadau allweddol yn eich ardal.

Rhywbeth i ddweud?