Teithio

Mae llawer o wahanol fathau o wyliau a phrofiadau teithio y gallwch eu dewis, o benwythnos gwersylla, gwyliau pecyn, InterRailing o amgylch Ewrop i bacio ar draws Awstralia.

Yn dibynnu ar ble rydych chi’n mynd, gall fod llawer o gynllunio, pacio a pharatoi cyn i chi adael. Byddwch yn ymwybodol bod gwahanol wledydd yn aml yn meddu ar gyfreithiau, rheolau a rheoliadau gwahanol, a gofynion fisa, felly dylech BOB AMSER wirio cyn i chi fynd!

Bydd yr adran hon yn rhoi cyngor a gwybodaeth i chi ar y gwahanol fathau o deithio, sut i gynllunio, beth i’w gymryd, sut i reoli eich arian a pha drefniadau bydd angen i chi eu gwneud. Bydd yr adran hon hefyd yn rhoi cyngor ac arweiniad i chi ar fyw a gweithio dramor.

Rhywbeth i ddweud?