Ymgynghoriad ar ganfyddiad y cyhoedd o ddiogelwch yn RhCT

Gan -
Dim Sylwadau

Mae’r Cyngor wedi paratoi arolwg blynyddol er mwyn archwilio i ba mor ddiogel mae pobl yn teimlo mewn mannau cyhoeddus yn RhCT.

Bydd yr arolwg, sydd ar gael ar-lein ac ar bapur, yn cynorthwyo’n Carfan Cymunedau Diogel i fonitro teimladau am ddiogelwch yn RhCT, yn ogystal â nodi pam/ble/pryd mae trigolion RhCT yn teimlo’n anniogel. Bydd modd creu data yn ôl ‘ardaloedd problemus’ fydd yn gallu cael ei ddefnyddio i ganolbwyntio ar yr ardaloedd mae angen eu gwella.

Mae nifer o ffyrdd i ddweud eich dweud –
Canfyddiad y Cyhoedd o Ddiogelwch yn RhCT Arolwg
E-bost: consultation@rctcbc.gov.uk

Mae modd i chi hefyd…

Ysgrifennu:

Rhadbost RSBU-HJUK-LSSS
Carfan Materion Ymchwil ac Ymgynghori
Cysylltiadau Cyhoeddus a Strategaeth
Y Pafiliynau
Parc Hen Lofa’r Cambrian
Cwm Clydach
Tonypandy
CF40 2XX
Ffôn: 01443 425014 rhwng 9am a 5pm Dydd Llun i  Ddydd Gwener

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl