Clwb Ieuenctid Bryn Celynnog

Clwb Ieuenctid Bryn Celynnog yn rhedeg ar Ddydd Llun a Dydd Mercher o 5:45pm – 8:00pm 

Ymunwch a’r tîm yn Clwb Ieuenctid Bryn Celynnog ar Ddydd Llun a Dydd Mercher o 5:45pm – 8:00pm!

Mae’r Clwb Ieuenctid yn un ystafell gyda llawer o fannau eistedd, sgrin taflunydd, dau deledu a chonsol gemau, dau fwrdd pŵl, bwrdd Fuzeball, a chegin. Mae Toiledau Merched i fyny’r grisiau ac mae Toiledau Bechgyn i lawr y grisiau.

Os byddwch yn mynychu dydd Llun a dydd Mercher, byddwch yn cwrdd â’r holl tîm: Jason, Jess, Kayleigh, Liam, Louisa, Martyn, Rhianydd, Sarah a Tracey!

Rydym ar agor 5.45pm i 8pm – rhwng 6.30pm a 7pm caniateir i chi ymweld â’r siopau os dymunwch – ond ni chewch ddychwelyd i mewn os dychwelwch ar ôl 7pm.

Edrychwch ar ein rhaglen weithgareddau i gael gwybodaeth am weithgareddau (yn amodol ar newid). Ewch i: Pethau i’w Gwneud > Taf > Ysgol Gyfun Bryn Celynnog am ragor o wybodaeth. Welwn ni chi cyn bo hir!

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Beth i’w ddisgwyl ar eich ymweliad cyntaf?

Y fynedfa i’r Clwb Ieuenctid yw’r ddihangfa dân ar yr ochr. Rydym yn rhannu’r adeilad gyda Eye2Eye, y Neuadd Chwaraeon a’r Pwll Nofio. Byddwch yn cyfarfod ag un o staff YEPS wrth y drws ar gyfer cofrestru. Os ydych o dan 18 oed a heb fod o’r blaen, byddwn yn rhoi un ffurflen i chi ei llenwi eich hun a ffurflen ganiatâd i fynd adref gyda chi at eich rhieni/gofalwyr. Os ydych dros 18, gallwch lofnodi eich ffurflen ganiatâd eich hun.

Darpariaeth Estynedig
Dydd Llun
Clwb Ieuenctid Dydd Llun
Youth Wing, Bryn Celynnog Comprehensive School, Penycoedcae Road, Beddau CF38 2AE 5:45 - 8:00
Dydd Mercher
Clwb Ieuenctid Dydd Mercher
Youth Wing, Bryn Celynnog Comprehensive School, Penycoedcae Road, Beddau CF38 2AE 5:45 - 8:00

Darpariaeth Gwyliau

Nid oes unrhyw ddarpariaethau Gwyliau ar gael ar hyn o bryd yn y lleoliad hwn.