Ffurflen Caniatâd Ieuenctid

    I'w chwblhau ar gyfer cyfranogwyr o dan 18 oed a'i dosbarthu gyda thaflen wybodaeth / llythyr yn rhoi manylion llawn yr ymweliad.

    Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gadw'ch gwybodaeth bersonol yn ddiogel a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi ynglŷn â sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth. I ddysgu am sut rydyn ni'n diogelu'ch preifatrwydd a sut a pham rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i ddarparu gwasanaethau i chi, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar gyfer y gwasanaeth yma: www.rctcbc.gov.uk/hysbysiadpreifatrwyddgwasanaeth a thudalennau diogelu data'r Cyngor yma: www.rctcbc.gov.uk/diogeludata.

    Darllenwch y datganiad isod a chwblhewch y ffurflen i barhau:

    Datganiad

    • Rwyf wedi darllen yr wybodaeth am yr ymweliad, ac wedi deall lefel yr oruchwyliaeth fydd ar gael. Rwy’n cytuno i adael i’m plentyn gfymryd rhan yn yr ymweliad ac yn y gweithgareddau sydd wedi’u disgrifio.
    • Rwy’n deall y bydd pob gofal rhesymol yn cael ei roi i fy mhlentyn yn ystod yr ymweliad/gweithgaredd a bod rhaid i fy mhlentyn i ufuddhau i bob cyfarwyddyd a gorchymyn sy’n cael eu rhoi a dilyn pob rheol a rheoliad sy’n berthnasol i’r ymweliad/gweithgaredd.
    • Rwy’n deall y côd ymddygiad ar gyfer yr ymweliad a’r gosb y gellid ei roi i fy mhlentyn os bydd yn torri rheolau’r côd ymddygiad. Rwyf wedi trafod y côd ymddygiad a’r cosbau posibl gyda fy mhlentyn.
    • Os bydd fy mhlentyn yn camymddwyn yn ddifrifol neu’n achosi perygl iddo ef neu i eraill, rwy’n deall bod posibilrwydd y bydd gofyn i mi ei gasglu o’r ysgol neu bydd y plentyn yn cael ei gludo adref cyn diwedd y gweithgaredd /ymweliad. Mewn sefyllfa o’r fath, fydd dim rheidrwydd ar yr ysgol/canolfan i ad-dalu unrhyw arian.
    • Mewn argyfwng, rwy’n caniatáu i fy mhlentyn dderbyn meddyginiaeth ac unrhyw driniaeth ddeintyddol, feddygol neu lawdriniaeth gan gynnwys anesthetig neu drallwysiad gwaed, yn unol â’r hyn y bydd yr awdurdodau meddygol sy'n bresennol o’r farn sydd orau.
    • Rwy'n deall y gall Cyngor RhCT ddefnyddio lluniau o'r gweithgaredd ar gyfer rhesymau hyrwyddo neu gyhoeddusrwydd.
    • Rwy’n deall cwmpas a chyfyngiadau'r yswiriant sy’n cael ei ddarparu.
    • Rwy’n deall bydd yr wybodaeth sydd wedi'i nodi ar y ffurflen ganiatâd yn cael ei gadw gan y Rheolwr Data, sef Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Bydd y data dim ond yn cael ei ddefnyddio at ddibenion trefnu a darparu'r gwasanaethau y gofynnwyd amdanyn nhw, cydgasglu a gwerthuso effeithiolrwydd y gwasanaeth ac i helpu cynllunio a datblygu gwasanaethau yn y dyfodol.

    Byddwn ni ond yn rhannu gwybodaeth y bydd modd adnabod yr unigolyn o'i herwydd, tu allan i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf os bydd lles eich plentyn wedi'i beryglu. Mae modd i chi wneud cais am gopïau o'r wybodaeth sydd gennym ni drwy ysgrifennu at: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Prif Swyddog Rheoli Gwybodaeth a Diogelu Data, Tŷ Bronwydd, Bronwydd Avenue, Y Porth, CF39 9DL.

    Sylwch fod angen pob maes sydd â seren (*) arno.

    Clwb Ieuenctid

    Eich Manylion

    Anghenion Cymorth, Meddygol a Deietegol

    Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD)AwtistiaethTourettesAnhwylder Sbectrwm Alcohol y Ffetws (FASD)DyslecsiaDCD/DyspracsiaMaterion prosesu synhwyraiddAnhwylder Gorfodaeth Obsesiynol (OCD)Anawsterau dysguAnhwylder ymddygiadAnhwylder Herio Gwrthryfelgar (ODD)GorbryderIselderCymryd meddyginiaeth yn rheolaiddCymorth yn yr ysgolArall

    Hyder Dwr/Gallu Nofio

    Nodwch a all eich plentyn nofio:

    Manylion Ychwanegol

    Eich manylion cyswllt

    Cyswllt Argyfwng Arall

    Meddyg Teulu

    Datganiad

    Datganiad – nodwch Ydw neu Nac ydw i bob un o’r datganiadau canlynol

    Rydw i wedi darllen yr wybodaeth am y clwb, ac wedi deall lefel yr oruchwyliaeth fydd ar gael. Rydw i'n cytuno i adael i’m plentyn gymryd rhan yn y ddarpariaeth. Rydw i'n deall y bydd fy mhlentyn yn derbyn pob gofal rhesymol yn ystod y ddarpariaeth ac os na fydd yn dilyn rheolau a chyfarwyddiadau gan aelod o staff, bydd gofyn i fy mhlentyn adael.

    Rydw i'n rhoi caniatâd i Swyddog Cymorth Cyntaf cymwys rhoi cymorth cyntaf i'm plentyn petai'n cael damwain sydd ddim yn ddifrifol. Rydw i'n deall y byddwch chi'n galw'r gwasanaethau brys os bydd argyfwng.

    Rydw i'n caniatáu i Wasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf) i gynhyrchu a chadw lluniau/fideo o'm plentyn, a bydd holl hawlfraint y lluniau/fideo yn aros gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.

    Rydw i'n caniatáu i'r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf) ddefnyddio'r lluniau/fideo ar gyfer dibenion hyrwyddo yn y dyfodol ar gyfryngau allanol y Cyngor, gwefannau'r Cyngor, a chyfryngau cymdeithasol y Cyngor, yn ogystal â chyhoeddiadau digidol a phrint y Cyngor.

    Rwy’n cydsynio i’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf) rannu’r delweddau/fideo gyda’r cyfryngau lleol a/neu genedlaethol.

    Mae modd i chi newid eich meddwl am adael i ni ddefnyddio llun eich plentyn ar unrhyw adeg.  Os ydych chi am newid eich meddwl, cysylltwch â ni:GYCI@rctcbc.gov.uk

    Cwblhau

    Os ydych yn rhoi caniatâd i ni dynnu lluniau o'ch plentyn ar gyfer ein cyfryngau cymdeithasol a pwrpasau marchnata, ticiwch y blwch hwn Rydw i yn rhoi caniatad
    Polisi Preifatrwydd.

    Diolch, mae eich ffurflen wedi’i derbyn yn llwyddiannus.