Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth 2024

Mae Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth yn ddathliad byd-eang o unigolion niwroamrywiol sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth o ystod o anableddau niwroddatblygiad ac anableddau dysgu, a herio ystrydebau yn eu cylch.

Sefydlodd ni ein Fforwm Ieuenctid Niwroamrywiaeth ym mis Medi 2023 hefyd. Mae’r Fforwm yn cynnwys deuddeg o bobl ifainc anhygoel ac unigryw rhwng 12 a 24 oed sy’n barod i ymgymryd â’r her o hyrwyddo newid cadarnhaol. 

Trwy waith prosiect a chynnal achlysuron, nod y fforwm yw:

  • Grymuso pobl ifainc niwroamrywiol i ddathlu eu niwrowahaniaethau.
  • Cefnogi aelodau’r Fforwm i archwilio eu dealltwriaeth eu hunain o sut mae niwroamrywiaeth yn effeithio ar eu bywydau a nodi’r cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
  • Herio’r ystrydebau a’r rhagfarnau sy’n ymwneud â niwroamrywiaeth i’r gymuned ehangach.
  • Addysgu pobl ifainc am niwroamrywiaeth.
  • Hyrwyddo ymwybyddiaeth o niwroamrywiaeth ar draws nifer o lwyfannau.

Bydd y Fforwm yn cael ei lansio’n swyddogol yn ystod Wythnos Dathlu Niwroamrywiaeth gyda phrosiect cyffrous sy’n cefnogi anghenion synhwyraidd pobl ifainc. Mae aelodau’r Fforwm wedi dylunio a chynhyrchu blychau synhwyraidd ac wedi’u llenwi ag amrywiaeth eang o deganau ‘fidget’ i’r holl bobl ifainc sy’n mynychu unrhyw un o’n clybiau ieuenctid ar draws RhCT eu defnyddio. Mae teganau ‘fidget’ yn ffordd wych o leihau pryder a straen a chynyddu lefelau canolbwyntio.

Bydd aelodau’r Fforwm yn mynd gyda staff i glybiau ieuenctid i ddosbarthu’r blychau, esbonio’r adnoddau a hyrwyddo pwysigrwydd cydnabod eich anghenion synhwyraidd unigol.

“Does dim ots pwy ydych chi, rydych chi’n cael eich derbyn yma.”
“Mae’n hwyl ac yn hapus, dyma’r lle gorau i fod.”

Aelodau’r Fforwm Ieuenctid Niwroamrywiaeth

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl