Dewch i ymuno â ni am ddiwrnod llawn hwyl a weithgareddau ar draeth Aberafan ar ddydd Mawrth 23ain o Orffennaf 2024. Mi fydd angen gwisg nofio a thywel, ynghyd ag eli haul a het. Dewch â phecyn bwyd gyda chi. Bydd y bws yn gadael ysgol Y Pant am 11.00yb ac yn dychwelyd erbyn tua 4.00yp.
Dewch i ymuno â ni ym Mharc Dŵr Bae Caerdydd am sesiwn llawn hwyl ar y cwrs rhwystrau! Bydd siwtiau gwlyb yn cael eu darparu. Mi fydd angen tywel a £1 am locer. Gwisgwch yn ôl y tywydd, gyda eli haul a het os oes angen. Dewch â phecyn bwyd a lluniaeth. Bydd y bws yn gadael ysgol Y Pant am 11.45yb ac yn dychwelyd erbyn tua 4.00yp.
Dewch i ymuno â ni am sesiwn bowlio deg yn Tenpin, Nantgarw. Bydd bwyd a lluniaeth yn cael eu darparu felly ni fydd angen pecyn bwyd ar y trip yma. Mae croeso i chi ddod ag arian ar gyfer yr arced. Bydd y bws yn gadael ysgol Y Pant am 12.15pm ac yn dychwelyd tua 4.00pm.
Dewch i ymuno â ni yn Lido Pontypridd i nofio a rhoi cynnig i'r cwrs rhwystrau. Bydd angen tywel, siwt nofio, £1 am locer a phecyn bwyd. Bydd y bws yn gadael ysgol Y Pant am 11.15yb ac yn dychwelyd tua 4.30yp.
Dewch i ymuno â ni i ymweld â’r Big Pit ym Mhont-y-pŵl am daith o dan y ddaear i gael blas o'r amodau gweithio ym mhwll glo . Bydd angen pecyn bwyd arnoch. Bydd y bws yn gadael ysgol Y Pant am 11.15yb ac yn dychwelyd tua 4.30yp.
Ydych chi'n hoffi pêl-rwyd, pêl-droed, neu chwarau gemau? Dewch i ymuno â ni bob dydd Mercher i gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon ar y cae 3G Ysgol Y Pant. Bydd yna hefyd weithgareddau ar y fan YEPS.
DBydd angen i bobl ifanc wisgo dillad sy'n addas ar gyfer y tywydd, a dod ag eli haul os yw'n boeth. Darperir cinio, ond dewch â byrbrydau a diod. Bydd y bws yn gadael Ysgol Y Pant am 10:30yb ac yn dychwelyd erbyn tua 4:00yp.
Dewch i ymuno â ni am sesiwn llawn hwyl o saethu peli paent yn Taskforce, Y Bont-faen. Gwisgwch hen ddillad a thraed addas. Bydd angen pecyn bwyd. Bydd y bws yn gadael Ysgol Llanhari am 11:45yb ac yn dychwelyd tua 16:00
Rydym yn defnyddio cwcis ar ein gwefan, am y manylion llawn, gweler ein Polisi Preifatrwydd. Hoffem gael eich caniatâd i ddefnyddio cwcis sy'n ein galluogi i roi profiad personol i chi a hysbysebu i chi mewn mannau eraill ar y rhyngrwyd. Cliciwch Caniatáu os ydych chi'n hapus i ni wneud hyn. Gallwch hefyd ddewis analluogi pob cwcis dewisol drwy glicio Analluogi.