Eisteddfod Genedlaethol 2023!

Eisteddfod Boduan 2023

Gwahoddwyd fforymau ieuenctid RhCT i gwario’r diwrnod yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Moduan ym mis Awst er mwyn paratoi ar gyfer dyfodiad yr Eisteddfod i RCT yr haf nesaf.

Aeth Shauna a Chelsea (YEPO’s) â grŵp o aelodau fforwm RhCT i fyny i Ogledd Cymru ar daith hanesyddol Gymreig cyn treulio’r prynhawn ar y Maes. Talodd pobl ifanc eu parch yng Nghapel Celyn, Tryweryn ac aethant ar daith drwy Barc Cenedlaethol Eryri a stopio yng Nghastell Cricieth.

Wedi cyrraedd yr Eisteddfod cafodd y bobl ifanc gyfle i grwydro’r maes.
Yn ddiweddarach yn y prynhawn, cafodd pobl ifanc y fforwm brofiad o ddiwylliant cerddoriaeth Gymraeg, o gerddoriaeth werin i rap a berfformiwyd yn yr iaith Gymraeg.
Bu’r bobl ifanc yn archwilio’r holl stondinau crefft a threfnu lle buont yn cyflwyno eu hunain fel fforwm ieuenctid RhCT yn ogystal â threulio eu hamser cinio yn mwynhau gwahanol fwydydd Cymreig.

Mwynhaodd y bobl ifanc weld ac archwilio’r holl gelf gyfoes oedd yn cael ei harddangos.

Treuliodd y bobl ifanc gynnwys y diwrnod yn creu vlog i ddangos i bawb yn RhCT beth sydd gan yr Eisteddfod i’w gynnig a beth sydd gennym i edrych ymlaen ato’r flwyddyn nesaf.

Rhywbeth i ddweud?

Pob Erthygl