Cyllidebu

Mae’r adran hon yn edrych ar sut y gallu di cyllidebu a chael mwy o reolaeth dros eich arian eich hun. Dyma gyflwyniad.

  • Mae cyllideb, yn syml, yn gofnod neu gynllun o faint o arian sydd gennyt yn dod i mewn (dy incwm) a faint o arian rwyt yn ei wario neu’n disgwyl gwario (dy dreuliau)
  • Pam gyllidebu? Mae cyllidebu yn dy helpu i wneud yn siŵr nad wyt yn gwario mwy nag y gallu di fforddio, mae’n gwneud yn siŵr nad wyt yn colli golwg ar dy arian neu yn gwastraffu, ac mae’n helpu i gynllunio ar gyfer y pethau pwysig a’r pethau hwyl mewn bywyd
  • Efallai y byddi di’n teimlo fod angen i ti greu cyllideb tymor byr, er enghraifft, os wyt ti’n cynilo ar gyfer rhywbeth neu eisiau gwneud yn siŵr y gallu di dalu dy gostau bob dydd, neu, cyllideb fwy hirdymor, er enghraifft, os wyt yn cymryd benthyciad

 

Awgrymiadau cynilo arian i bobl dan 25 oed

Incwm a Gwariant

I greu cyllideb, mae angen i ti edrych ar dy incwm (yr arian sydd gennyt yn dod i mewn) a dy dreuliau (yr hyn mae’n rhaid i ti dalu amdano). Mae enghreifftiau o beth i gynnwys yn dy gyllideb ar gael isod.

Gallu di osod cyllideb gan ddefnyddio taenlen ar dy gyfrifiadur neu eu hysgrifennu i gyd i lawr ar ddarn o bapur. Creu tabl yn dangos dy incwm misol a dy wariant misol a’r gwahaniaeth rhwng y ddau. I gadw allan o ddyled, dylai dy siart dangos fod dy incwm yn fwy na dy wariant.

Efallai bydd dy fanc neu dy gymdeithas adeiladu hefyd yn rhoi mynediad i ti i offeryn cyllidebu ar-lein sy’n cymryd gwybodaeth yn uniongyrchol oddi wrth dy drafodion. Fel arall, defnyddia’ Cynllunydd cyllideb ar-lein y Gwasanaeth Cynghori Ariannol.

Incwm

Efallai byddi di’n cael dy incwm o:

  • Swydd rhan-amser neu lawn-amser
  • Arian poced oddi wrth berthnasau neu warcheidwaid
  • Budd-daliadau y mae gennych hawl iddynt
  • Swyddi bach i rieni neu gymdogion sy’n dy dalu di
  • Benthyciad myfyriwr neu grant
  • Benthyciad personol
  • Unrhyw grantiau hyfforddi

Tasg: Ysgrifenna restr o dy holl ffynonellau incwm, gan weithio allan faint y byddi di’n ennill bob wythnos, mis neu flwyddyn.

Treullau

Yr ail gam yw darganfod faint o’r arian yr wyt yn ennill sy’n mynd allan bob wythnos neu bob mis.

Rhybudd #1: Mae’n hawdd anghofio rhai treuliau rheolaidd , fel costau cludiant, i danbrisio faint mae pethau’n costio, fel dy bil bwyd, neu yn syml anghofio am rai costau, fel prynu anrheg pen-blwydd i dy chwaer!

Awgrymiad #1: Ceisia gadw derbynebau ar gyfer dy holl dreuliau am ychydig o fisoedd i roi darlun gwell o’r hyn yr ydwyt yn gwario mewn gwirionedd, nid beth yr wyt yn meddwl dy fod di’n gwario. Galwa hyn yn ‘dyddiadur gwariant’, os wyt ti eisiau.

Mae’r canlynol yn gategorïau ac enghreifftiau a all dy helpu i feddwl am yr hyn yr wyt yn ei wario:

  • Treth: Treth incwm, treth gyngor, yswiriant gwladol
  • Biliau cartref: taliadau rhent neu forgais, ynni, dŵr, ffôn llinell tir, ffôn symudol, teledu lloeren, y rhyngrwyd
  • “Hanfodion” Arall: Dillad, bwyd, colur a chynnyrch hylendid, torri gwallt, gweithdrefnau deintyddol
  • Costau Addysgol: Ffioedd Coleg neu brifysgol, llyfrau, deunydd ysgrifennu neu offer ar gyfer dy gwrs, teithiau maes
  • Teithio: MOT car neu dreuliau gwasanaethu, petrol, tocynnau trên neu fws, gwyliau
  • Hamdden: Prydau allan, sinema, clybio, cylchgronau, losin, ffioedd aelodaeth, hyd yn oed sigaréts
  • Teulu a ffrindiau: Anrhegion Pen-blwydd a Nadolig
  • Arall: Yswiriant o bob math, ad-daliadau benthyciadau (gan gynnwys benthyciadau myfyrwyr), biliau credyd neu gerdyn siop, cyfraniadau pensiwn (ie, o ddifrif!), cyfranddaliadau, bondiau

Rhybudd ac Awgrymiad #2: Gall fod yn anodd amcangyfrif faint yr ydwyt yn gwario, ond paid â cheisio a thwyllo ti dy hun neu ni fydd dy gyllideb yn gweithio! Bydda’n realistig a bydd gennyt ddigon o arian ar gyfer y pethau yr wyt ei hangen ac eisiau.

Gwario Mwy Nag Yr Ydwyt Yn Ennill?

I aros allan o ddyled, mae angen i dy incwm fod yn fwy na dy wariant.

Os yw dy siart gyllideb yn dangos dy fod yn gwario mwy nag yr ydwyt yn ennill, bydd naill ai angen i ti edrych ar ffyrdd o leihau dy wariant neu gynyddu dy incwm.

Er enghraifft, os ydwyt am gynyddu dy incwm, gallet ystyried cael mwy o oriau yn y gwaith neu ail swydd neu werthu eitemau i godi rhywfaint o arian.

Os ydwyt am dorri yn ôl ar dy wariant, mae llawer o ffyrdd y gallu di arbed arian, gan gynnwys:

  • Arbed ynni – gallu di dorri yn ôl ar dy filiau ynni, fel trydan a nwy, trwy ddim ond eu defnyddio pan fydd angen i ti. Gall pethau bach fel diffodd golau pan fyddi di’n gadael ystafell a throi’r tap i ffwrdd pan fyddi di’n brwsio dy ddannedd arbed llawer o arian yn y tymor hir
  • Newid dy arferion siopa – ceisia siopa mewn siop ratach neu brynu brandiau’r siop ei hun i arbed arian. Os ydwyt yn prynu llawer o brydau parod, ceisia goginio’n ffres yn lle sy’n llawer rhatach (ac yn iachach!)
  • Gwna’r rhan fwyaf allan o ddisgowntiau – os ydwyt yn fyfyriwr, ceisia mynd i fariau sydd â nosweithiau myfyrwyr, neu siopau sy’n cynnig disgownt i fyfyrwyr yn lle
  • Cyllideba ar gyfer anrhegion – gan neilltuo swm penodol ar gyfer anrhegion pen-blwydd neu Nadolig fesul person a chadw ato
  • Canslo tanysgrifiadau neu Ddebydau Uniongyrchol nad ydwyt ti eisiau neu ei angen bellach
  • Defnyddia gwefannau cymharu prisiau – mae un rheol sylfaenol – beth bynnag yr ydwyt yn chwilio amdano, bydd yna safle mwy na thebyg i’th helpu i ddod o hyd i’r pris rhataf. Gallant dy helpu cymharu dwsinau o brisiau mewn munudau

Dim esgusodion! Mae digon o ffyrdd i arbed arian felly eistedda i lawr a threulio rhywfaint o amser yn meddwl am sut y gallu di gwtogi ar dy dreuliau gan fod yn llym gyda thi dy hun! Gall newidiadau bach i dy wariant o ddydd i ddydd arbed arian i ti yn y tymor hir.

Os ydwyt yn poeni am fynd i ddyled, gweler yradran Ddyled am wybodaeth a chyngor. Does dim angen poeni, mae help ar gael i ti, ond dylet gymryd camau cyn gynted ag y gallu di.

Tymor Hir a Thymor Byr

Pan fyddi di’n cyllidebu dy arian, efallai y byddi di am feddwl yn y tymor byr yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, neu yn y tymor hir, efallai yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf. Mae hyn yn dy helpu i gynllunio dy sefyllfa ariannol a pharatoi ar gyfer dy ddyfodol, yn ogystal â dy gostau bob dydd.

Cyllidebu Tymor Hir: Gall cyllidebu tymor hir dy helpu i gynilo ar gyfer eitem arbennig, fel consol cyfrifiadur, gwyliau neu ffôn symudol. Mae hefyd yn ffordd dda i baratoi ar gyfer buddsoddiadau mawr fel morgais neu gar. Mae’n gwneud yn siŵr y gallu di wneud cynlluniau ariannol ar gyfer y dyfodol.

Sut: I gyllidebu yn iawn yn y tymor hir, mae angen i ti edrych ar faint yr wyt am gynilo bob wythnos neu bob mis ac am ba hyd, hyd nes y gallu di fforddio’r hyn yr wyt ti eisiau. Bydda’n realistig pan fyddi di’n yn cyllidebu – rwyt ti ond yn twyllo dy hun fel arall! 

Cyllidebu Tymor Byr: Mae cyllidebu tymor byr yr un mor bwysig â chyllidebu yn y tymor hir. Gall cyllidebu tymor byr dy helpu i dalu am gostau bob dydd, fel bwyd, costau cludiant neu filiau, yn ogystal â helpu i brynu pethau bach fel anrhegion pen-blwydd neu CDs.

Nodau Cynilion

Mae rhai pobl yn ei chael yn anodd cael y cymhelliant i gynilo, ond mae’n aml yn llawer haws os ydwyt yn gosod nod. Drwy wneud hyn, yn hytrach na meddwl am yr arian yr wyt yn gosod o’r neilltu bob mis, gallu di ganolbwyntio ar beth allu di wneud unwaith byddi di wedi cyrraedd dy nod.

Dy gam cyntaf yw cael rhywfaint o gynilion brys – arian i ddisgyn yn ôl arno os oes gennyt argyfwng, fel y boeler gwresogi yn torri lawr neu os nad allu di weithio am gyfnod. Ceisia gael gwerth tri mis o dreuliau mewn cyfrif mynediad hawdd neu dim rhybudd. Paid â phoeni os nad ydwyt yn gallu cynilo hyn ar unwaith, ond cadwa fel targed i anelu amdano.

Unwaith y byddi di wedi gosod dy gronfa argyfwng o’r neilltu, efallai y bydd nodau cynilion posibl i’w hystyried yn cynnwys:

  • Mynd ar wyliau heb orfod poeni am y biliau pan fyddi di’n cyrraedd nôl
  • Mynd i’r brifysgol heb orfod cymryd allan benthyciad myfyriwr mawr
  • Cael rhywfaint o arian ychwanegol wedi neilltuo tra byddi di ar absenoldeb mamolaeth neu dadolaeth, neu
  • Prynu car heb gymryd benthyciad

Os wyt ti eisiau mwy o help yn cyllidebu, ceisia siarad â dy rhieni, y Ganolfan Cyngor ar Bopeth neu ymgynghorydd ariannol annibynnol.

Rhywbeth i ddweud?