Dyled

Dyled yw pan fydd arnat ti arian i rywun. Gall dyled a phroblemau ariannol cael ei rhannu’n ddau gategori, problemau rheoli arian a phroblemau dyled.

Problem rheoli arian – dyma ble mae ganddynt ddigon o incwm ar gyfer y gwariant hanfodol (bwyd, teithio, rhent/morgais ayyb) ac ymrwymiadau credyd ond maent yn gwario gormod ar eitemau diangen. Dan yr amgylchiadau hyn, mae gofyn am gyngor cyllidebu ac angen lleihau’r swm maent yn gwario ar eitemau gorddewisol fel dillad, bwyta allan ayyb.

Problem ddyled – dyma ble nad oes ganddynt ddigon o incwm ar gyfer y gwariant hanfodol (bwyd, teithio, rhent/morgais ayyb) ac ymrwymiadau credyd misol. Dan yr amgylchiadau hyn, maent angen chwilio am gyngor (gweler y rhestr isod), fydd yn awgrymu’r ateb fwyaf priodol am eu sefyllfa (bod hynny yn Orchymyn Gweinyddu, Gorchymyn Cymorth Dyled, rheoli Dyled, Methdaliad, Rhyddhad Ecwiti neu Drefniant Gwirfoddol Unigol er esiampl mae’n gymhleth iawn ac mae’r ateb cywir yn ddibynnol ar faint rwyt ti’n ddyledus, faint sydd gen ti ar gael i dalu’r credydwyr bob mis ac os oes gen ti unrhyw asedau ti eisiau diogelu, fel dy gartref).

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael eu hunain mewn dyled ar ryw adeg yn eu bywyd, boed yn arian y mae ei arnat ti ar fil cerdyn credyd neu fenthyciad myfyriwr. Ni fydd dyled yn dod yn broblem oni bai dy fod di’n cael dy hun mewn sefyllfa pan mae arnat ti arian nad ydwyt yn gallu ei dalu yn ôl.

Os ydwyt mewn dyled nid ydwyt yn gallu ei thalu yn ôl, y peth pwysicaf yw peidio â chynhyrfu a pheidio ag anwybyddu’r broblem – ni fydd yn diflannu.

Os oes gennyt ti broblemau â dyled, mae’n rhaid i ti wneud rhywbeth i’w datrys cyn gynted â phosib. Mae yna bobl sy’n gallu dy helpu a digonedd o ffyrdd o dy helpu i leihau dy ddyled.

Os ydwyt ti mewn dyled, siarada â rhywun. Efallai y bydd o help dweud wrth aelod o dy deulu neu ffrind a allai dy helpu, neu fe alli di siarad â nhw yn y Ganolfan Cyngor ar Bopeth i gael cyngor rhad ac am ddim a chyfrinachol. Gweler isod rhestr o sefydliadau gall fod o gymorth os ydych yn ffeindio’ch hun mewn dyled.

Citizens Advice – Debt

National Debtline – Deal with your Debt

Gov.UK – Options for paying off debt

StepChange Debt Charity

PayPlan – Free debt advice and management plans

Mae yna wahanol fathau o ddyled, sy’n dibynnu ar eu blaenoriaeth o ran talu’r arian yn ôl.

Dyledion â Blaenoriaeth

Y dyledion â blaenoriaeth yw’r dyledion hynny i’r credydwyr (y bobl y mae arnat ti arian iddyn nhw) sydd â’r achos cryfaf i fynd â thi i gyfraith os na fyddi di’n talu’r arian yn ôl.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Ad-daliadau morgais – gall y benthyciwr morgais fynd â thi i gyfraith i feddiannu dy gartref
  • Rhent – gall y landlord dy droi allan os oes arnat ti rent
  • Treth incwm a TAW – gallet ti gael dy ddyfarnu yn fethdalwr neu gael dy garcharu am beidio â thalu treth incwm neu TAW
  • Dirwyon, fel dirwyon llys yr ynadon am droseddau traffig. Os na fyddi di’n talu’r rhain, gall y llys ddefnyddio beilïaid i adfeddiannu dy nwyddau. Os, ar ôl hyn, bod yna symiau yr ydwyt dal heb eu talu, fe allet ti gael dy garcharu
  • Cynhaliaeth, costau cynnal plant, treth cyngor neu ardrethi. Os na fyddi di’n talu’r rhain, gall llys ddefnyddio beilïaid i adfeddiannu dy nwyddau. Os, ar ôl hyn, bod yna symiau yr ydwyt ti dal heb eu talu, fe allet ti gael dy garcharu
  • Dyledion nwy, trydan neu olew – os na fyddi di’n talu’r biliau yma mae’n bosib y bydd dy gyflenwad yn cael ei ddatgysylltu
  • Hurbryniant (neu ’gwerthiant amodol’ i roi enw arall arno) – bydd hyn yn ddyled â blaenoriaeth os yw am eitem hanfodol, er enghraifft, os ydwyt wedi hurbrynu car ac mae angen car arnat ti i fynd i’r gwaith
  • Mae’n bwysig talu unrhyw ddyledion â blaenoriaeth yn ôl yn gyntaf cyn unrhyw ddyledion heb flaenoriaeth

Dyledion Heb Flaenoriaeth

Mae dyledion heb flaenoriaeth yn cynnwys:

  • Arian y mae ei arnat ti ar gerdyn credyd neu gerdyn siop
  • Arian y mae ei arnat ti i gatalog
  • Gorddrafftiau a benthyciadau’r banc
  • Budd-daliadau sydd wedi’u gordalu i ti
  • Hurbryniant (neu ’gwerthiant amodol’ i roi enw arall arno) – bydd hyn yn ddyled heb flaenoriaeth os yw am eitemau anfaddeuol, fel teledu
  • Arian yr ydwyt ti wedi’i fenthyca oddi wrth dy deulu neu ffrindiau
  • Er y gall credydwyr dyledion heb flaenoriaeth fynd â thi i gyfraith os na fyddi di’n eu talu, neu anfon y beilïaid i ddelio â thi, ni alli di gael dy garcharu

Mae gan y Gwasanaeth Cynghori Ariannol un neu ddau o adrannau ar undebau credyd, gan gynnwys:

Ble i gael cyngor am ddim ynghylch Dyled

Sut i Flaenoriaethu dy Ddyledion

Help os ydwyt yn cael trafferth gyda dyledion

Gwiriad Iechyd cyflym a hawdd o dy ddyled

Gallet gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol ar 0300 500 5000 (neu 0300 500 5555 ar gyfer Cymraeg) Llun – Gwener 8am – 8pm, Sad 9am-1pm. Ceir hefyd swyddogaeth sgwrsio ar-lein ar eu safle.

Gallet gysylltu â Meic am ddim drwy sgwrsio ar-lein, testun (84001) neu ffoniwch (23456 080880).

Rhywbeth i ddweud?