Ysbrydoli i Weithio

Image for Ysbrydoli i Weithio

Ysbrydoli i Weithio

Mae cyfle cyffrous gan Ysbrydoli i Weithio i gyfranogwyr rhwng 16 a 24 oed sydd â diddordeb mewn ennill cymwysterau sy’n gysylltiedig â sgiliau gwaith o gysur eu cartrefi yn ystod y cyfnod yma.

Mae bellach modd i ni ddarparu ystod eang o gyfleoedd e-ddysgu achrededig, drwy’r Coleg Digidol. Mae hyn yn cynnwys:
Iechyd a Diogelwch mewn Amgylchedd Adeiladu (Cerdyn Cynllun Tystysgrif Sgiliau Adeiladu)
Hylendid a Diogelwch Bwyd Lefel 2
Gofal a Gwasanaeth i Gwsmeriaid
Cyflwyniad i Waith y Ganolfan Gyswllt
A llawer yn rhagor!

Ynghlwm mae llyfryn llawn sy’n nodi’r cyrsiau y mae gennym ni fynediad atyn nhw.

I fod yn gymwys ar gyfer y cwrs, rhaid bod cyfranogwyr:

· Yn 16–24 oed
· Yn byw yn Rhondda Cynon Taf.
· Ddim mewn addysg na chyflogaeth
· Ddim ar y rhaglen waith ac ati
· Ddim yn gymwys ar gyfer y rhaglen Cymunedau am Waith
· Rhaid i’r cyfranogwyr hefyd ddarparu pob cadarnhad cymhwysedd ymlaen llaw:
h.y. prawf oedran, prawf eu bod yn gymwys i weithio yn y DU.

Er mwyn cwblhau’r cyrsiau ar-lein mae angen y canlynol ar y cyfranogwyr:
· Cyfeiriad e-bost
· Mynediad i’r Rhyngrwyd
· Dyfais sy’n galluogi’r rhyngrwyd – mae modd defnyddio nifer o ddyfeisiau gan gynnwys gliniaduron, cyfrifiaduron, tabledi, ffonau clyfar a chonsolau gemau.

Bydd angen i’r cyfranogwyr gofrestru dros y ffôn.

Os hoffech gyfeirio at Ysbrydoli i Weithio ar ran unigolyn, cwblhewch y
ffurflen atgyfeirio sydd ynghlwm.

1a. Participant Referral Form – For use from 2-10-18 (1)

Mae modd anfon ffurflenni atgyfeirio yn electronig.

Anfonwch at – Sarah Lynch – sarah.l.lynch@rctcbc.gov.uk

Gobeithio y bydd hyn o ddefnydd i’ch cleientiaid. Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau, mae croeso i chi gysylltu â mi.

Summer-Catalogue

Rhywbeth i ddweud?