Dal i Fyny Ar Y Cyfarfod Diwethaf

Fforwm Ieuenctid y Sir

Beth trafodwn yn yr cyfarfod diwethaf (16 Chwefror):

 

Y diweddaraf ar Fforwm Ieuenctid y Sir

Cafodd pobl ifanc o gynghorau ysgolion a thri fforwm cymunedol sy’n cydweithio â’r Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) yr wybodaeth ddiweddaraf ar ddatblygiad cyfredol Fforwm Ieuenctid y Sir. Fe gawson nhw wybod hefyd beth oedd wedi’i drafod mewn cyfarfodydd diweddar.

Cyfle Ymgynghori 1 – Richard a Chieko – Treftadaeth

Cafodd aelodau’r fforwm y cyfle i gymryd rhan mewn profiad rhithwir. Fe gawson nhw eu gwahodd i roi adborth ac i roi eu barn ar a fyddai’r profiad rhithwir yn ehangu profiadau treftadaeth yn RhCT.  Cafodd pob aelod fu’n cymryd rhan y cyfle i roi tro ar brofiad cloddio rhyngweithiol a phrofiad amgueddfa rhyngweithiol, ac yna fe gawson nhw eu gwahodd i lenwi ffurflen adborth.  Yn gyffredinol, roedd yr adborth yn hynod gadarnhaol, ac roedd pawb wedi mwynhau’r cyfle.

 

Adborth Fforymau Cymunedol/Cynghorau Ysgol

Cafodd pobl ifanc o Gynghorau Ysgol a grwpiau Fforymau Cymunedol eu gwahodd i rannu gwaith roedden nhw wedi bod yn rhan ohono dros yr wythnosau diwethaf:

Fforwm Cwm Rhondda

Ers cyfarfod diwethaf Fforwm Ieuenctid y Sir, mae fforwm Cwm Rhondda wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobr Rhagoriaeth mewn Gwaith Ieuenctid am Arloesi Digidol, hyn ar gyfer prosiect animeiddio ar iechyd meddwl. Bydd y canlyniad yn cael ei gyhoeddi ar 22 Chwefror yng ngogledd Cymru.

Mae’r fforwm wedi bod yn paratoi ar gyfer y sioe ffasiwn YEPS sy’n digwydd ar 4 Ebrill yng Ngholeg y Cymoedd, Nantgarw. Maen nhw wedi bod wrthi’n ddyfal yn creu dillad o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu.  Bydd y dillad yma’n cael eu harddangos yn yr achlysur ar 4 Ebrill.

Yn rhan o brosiect diogelwch y gymuned y fforwm ieuenctid, mae aelodau’r fforwm wedi cynllunio fideo â throsleisiau, ac wedi’i recordio, hyn ar gyfer fideo sydd ar y gweill am ba mor ddiogel mae pobl ifanc yn ei deimlo yn eu hardaloedd, a’r profiadau hynny sydd wedi gwneud iddyn nhw deimlo nad oedden nhw’n ddiogel.

Fe wnaeth aelodau’r fforwm helpu hefyd i greu darn byr o waith oedd yn codi ymwybyddiaeth ynghylch perthnasoedd sydd heb fod yn iach a pherthnasoedd lle mae un partner yn cael ei reoli gan y partner arall. Cafodd y darn ei berfformio yn yr Achlysur Rhuban Gwyn ym Mhontypridd ar 24 Tachwedd 2023.

Fforwm Cwm Taf

Mae Fforwm Cwm Taf wrthi’n creu gweithdai ar sail materion, a bydd modd i aelodau’r fforwm gyflwyno’r rhain mewn ysgolion, clybiau ac ati.  Maen nhw’n mynd i’r afael â materion fel gwrth-fwlio, gwrth-fêpio a pharch i enwi tri’n unig.

Mae aelodau’r fforwm wedi dechrau ar y gwaith o greu adnoddau’n ymwneud â chefnogi iechyd meddwl a chodi ymwybyddiaeth ynghylch hyn. Y bwriad yw arddangos y gwaith mewn pabell yn yr Eisteddfod yr haf yma.

Mae aelodau’r fforwm yn creu dillad ar gyfer y Sioe Ffasiwn Amgylcheddol fydd yn digwydd ym mis Ebrill. Maen nhw hefyd wedi bwrw’u pleidlais ar enw terfynol y Sioe Ffasiwn.

Yn ogystal, mae aelodau’r fforwm wedi bod yn gweithio gyda sefydliad NaturPonty, yn rhoi sylw i’w faniffesto, ac yn trafod eu hoff ardaloedd ym myd natur ym Mhontypridd a’r ardaloedd cyfagos gan roi eu barn ar y rhain. Maen nhw hefyd wedi helpu i benderfynu ar ffont a dyluniad y copi caled o’r maniffesto, sydd bellach wedi’i argraffu ac ar gael i’w ddarllen.

Fforwm Cwm Cynon

Mae Fforwm Cwm Cynon yntau wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr Rhagoriaeth mewn Gwaith Ieuenctid, hyn ar gyfer Cydraddoldeb ac Amrywioldeb.  Fe gafodd ei enwebu’n sgîl achlysur Balchder yr oedd aelodau’r fforwm wedi’i gynllunio a’i gynnal ym Mharc Aberdâr. Fe ddaeth mwy na 500 o bobl i’r achlysur.

Fe wnaeth rhai aelodau’r fforwm gymryd rhan mewn prosiect ar Hanes a Diwylliant Nigeria. Fe ddysgon nhw sut i gyfweld pobl, ac fe wnaethon nhw ddefnyddio eu sgiliau newydd i gynnal cyfweliadau ar gyfer cyflwyniad ffilm sydd ar y gweill.

O ganlyniad i’r prosiect yma, fe benderfynodd aelodau’r fforwm eu bod nhw am ddechrau prosiect treftadaeth amlddiwylliannol gan greu darn o waith yn y pen draw, gan gynnwys ffilm ddogfen, a fydd yn arddangos y diwylliannau cyfoethog ac amrywiol sydd yn Nyffryn Cynon ac yn RhCT drwyddi draw.

Mae aelodau’r fforwm wrthi’n paratoi ar gyfer y Sioe Ffasiwn Amgylcheddol, yn creu dillad, ac fe fyddan nhw yno ar y noson i helpu i gynnal yr achlysur.

Fe fu aelodau’r fforwm yn rhan o’r Achlysur Rhuban Gwyn ym Mhontypridd, ac fe fuon nhw am yr ail flwyddyn, yn helpu i greu’r perfformiad a ddigwyddodd ar ddiwedd yr achlysur.

Cyngor Ysgol Gymunedol Tonyrefail (CYGT)

Mae CYGT wedi dechrau cynllun gwobrwyo newydd yn ei ysgol. Mae hyn yn golygu gwobrwyo ymddygiad cadarnhaol drwy roi gostyngiad ar ginio yn yr ysgol ac offer ysgrifennu, ymysg pethau eraill.

Yn ogystal â hyn, mae cyngor yr ysgol wedi bod yn helpu’r ymgyrch Big Bocs Bwyd yn Nhonyrefail. Prosiect yw hwn sy’n helpu pobl ifanc a theuluoedd i feddwl mewn ffordd gadarnhaol ac iach. Mae’n cynnig bwyd o ansawdd da a ryseitiau am bris sy’n fforddiadwy i bawb.

Cyfle Ymgynghori 2 – Strategaeth Gorfforaethol yr Awdurdod Lleol 2024-2030

Fe gyflwynodd Rhys James ymgynghoriad a oedd wedi ceisio adborth pobl ifanc ar bynciau fyddai’n cael effaith arnyn nhw dros y 6 mlynedd nesaf ac y mae’r awdurdod lleol yn gobeithio eu rhoi ar waith.  Bydd eu hadborth ar dai, pobl a chymunedau, byd natur a’r amgylchedd a gwaith a busnesau yn cael ei ddefnyddio i lywio cynlluniau’r awdurdod lleol ar gyfer y dyfodol, gan y bydd y penderfyniadau fydd yn cael eu gwneud nawr yn cael effaith ar y bobl ifanc yma yn y blynyddoedd nesaf.  Daeth pwyntiau trafod hynod ddiddorol i’r amlwg, yn ogystal ag adborth gwych.

UNRHYW FATER ARALL

Gofynnodd Allyn i wirfoddolwyr gyflwyno’u henwau ar gyfer rôl Aelod nesaf Senedd Ieuenctid RhCT, ac fe ddaeth nifer helaeth o enwau i law. Bydd canlyniadau’r broses yma ar gael wedi i’r pleidleisio ddirwyn i ben.

Fe wnaeth pobl ifanc gyflwyno eu henwau hefyd ar gyfer dau ymgynghoriad amgylcheddol fydd yn digwydd yn y dyfodol gyda’r awdurdod lleol. Bydd un yn golygu trafod pynciau sy’n bwysig iddyn nhw gydag aelodau’r cabinet.

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf

31/5/2024.  Lleoliad i’w gadarnhau’n nes at yr amser.

 

Rhywbeth i ddweud?