Fy Adolygiad

Beth yw Cyfarfod Adolygu?

Dyma gyfarfod i adolygu dy gynllun gofal a chymorth di er mwyn gwneud yn siŵr bod y cynllun yn diwallu dy anghenion di, ac os nag yw e’n gwneud hynny, i gytuno newidiadau a fyddai’n llesol i ti. 

Beth yw gwaith y Swyddog Adolygu Annibynnol? 

Mae’r Swyddog Adolygu Annibynnol yn cadeirio’r cyfarfod adolygu. Mae’n gwneud yn siŵr bod gan bawb, ac enwedig ti, y cyfle i fod yn rhan o’r cyfarfod, i ofyn cwestiynau ac i rannu ei d/theimladau. 

Pa mor aml bydda i’n cael cyfarfod adolygu? 

  1. Yr adolygiad cyntaf – bydd hyn yn cael ei gynnal rhywbryd yn y pedair wythnos ar ôl i ti ddechrau derbyn gofal. 
  2. Yr ail adolygiad – o leiaf 3 mis ar ôl yr adolygiad cyntaf.
  3. Adolygiadau eraill – o leiaf bob chwe mis. 

Mae modd i ti siarad â’th swyddog adolygu os wyt ti eisiau cael cyfarfod yn gynt.

 

Pwy fydd yn fy nghyfarfodydd adolygu? 

Bydd yn dibynnu ar dy oedran a’th anghenion di.  Bydd y bobl ganlynol fel arfer yn bresennol yn y cyfarfod: 

  • Ti 
  • Un neu ddau o dy rieni di 
  • Swyddog Adolygu Annibynnol
  • Dy weithiwr cymdeithasol / Gweithiwr ôl-ofal
  • Dy riant maeth / aelod teulu / dy weithwyr allweddol
  • Rhywun o’r ysgol neu’r coleg 

Os byddi di eisiau i rywun penodol fod yn y cyfarfod, neu beidio â bod yno, dyweda wrth dy weithiwr cymdeithasol neu dy riant maeth. Weithiau bydd modd i ti a’r Swyddog Adolygu Annibynnol gytuno i rywun aros am ran o’r adolygiad, ond nid am yr adolygiad cyfan.

 

Fydd rhaid i mi fynd i’r cyfarfodydd adolygu? 

Mae dy gyfarfod adolygu di amdanat ti a dim byd arall. Os na fyddi di yn y cyfarfod, efallai na fydd modd i ti ddylanwadu ar y cynllun cymaint ag y byddet ti wedi’i hoffi.  

Does dim hawl gan unrhyw un i dy orfodi di i fynd i dy gyfarfodydd adolygu, a does dim gorfodaeth arnat ti i aros am y cyfarfod cyfan os na fyddi di eisiau. Mae modd gofyn i rywun siarad ar dy ran di p’un a wyt ti yn y cyfarfod ai peidio. 

 

Sut bydda i’n gallu dweud fy nweud am yr hyn sy’n digwydd yn fy mywyd? 

Dydy pawb ddim yn hoffi siarad o flaen grwpiau o bobl, felly, efallai bydd cymryd rhan yn dy adolygiad di’n codi ofn arnat ti. Mae sawl ffordd wahanol o fynegi dy deimladau di a sut rwyt ti’n teimlo i bobl eraill. Er enghraifft: 

  • dod i dy gyfarfod adolygu
  • llenwi Ffurflen Adolygiad Ymgynghori  (naill ai ar-lein neu ar bapur)
  • ffonio dy Swyddog Adolygu Annibynnol cyn y cyfarfod
  • cwrdd â’th Swyddog Adolygu Annibynnol yn breifat cyn yr adolygiad
  • gwahodd eiriolwr i ddod i’r cyfarfod adolygu i fynegi dy farn. 

Fy Llais Fy Adolygiad

Un o’r ffyrdd hawsaf i chi ddweud eich dweud yw trwy lenwi Llyfryn Ymgynghori Fy Llais Fy Adolygiad.

Gallwch lenwi’r ffurflen hon ar-lein:
https://RCTCBC.welcomesyourfeedback.net/2sidedConsultation

Ar gyfer plant a phobl ifanc sydd wedi arfer defnyddio gwybodlenni gallwch glicio ar y linc isod
https://RCTCBC.welcomesyourfeedback.net/MyVoiceMyReview

Mae’r ffurflen yn eich holi am yr hyn sy’n digwydd yn eich bywyd a’ch barn, eich dymuniadau a’ch teimladau. Os byddwch yn llenwi’r ffurflen ar-lein, bydd yn cael ei hanfon at eich IRO trwy system ar-lein ddiogel gyda dim ond clic o’r botwm!


Beth fydd yn digwydd ar ôl y cyfarfod adolygu?
 

Ar ôl dy gyfarfod adolygu, bydd dy Swyddog Adolygu Annibynnol yn anfon copi o’r hyn gafodd ei drafod ac unrhyw benderfyniadau a wnaed, atat ti a phawb arall. Os fyddi di ddim yn deall yr hyn sydd wedi’i nodi, neu os byddi di eisiau siarad am y cyfarfod, mae croeso i ti siarad â’th weithiwr cymdeithasol neu dy Swyddog Adolygu Annibynnol.

 

Pwy yw fy Swyddog Adolygu Annibynnol? 

I siarad â’th Swyddog Adolygu Annibynnol cyn dy gyfarfod nesaf, neu i gael copi drwy’r post o Llyfryn Ymgynghori’r Adolygiad, anfona neges e-bost i CarfanAdolyguPlantDanOfal@rctcbc.gov.uk. 

Noda dy enw a dyddiad geni a bydd y Swyddog Adolygu Annibynnol yn cysylltu â thi. 

Rhywbeth i ddweud?