Fy Iechyd

Yn ystod dy gyfnod mewn gofal, bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gweithredu’n rhiant cyfrifol a byddwn ni eisiau gwneud yn siŵr dy fod mor iach â phosibl.

I wneud hyn, dylai dy iechyd gael ei asesu gan feddyg neu nyrs yn fuan ar ôl i ti ddod i mewn i’r system gofal. Bydd angen i’r meddyg neu’r nyrs dy weld unwaith bob blwyddyn tra byddi di’n derbyn gofal. (Dwywaith bob blwyddyn os wyt ti’n iau na 5 oed). Mae hyn er mwyn sicrhau dy fod mor iach â phosibl, a bydd yn rhoi cyfle i ti drafod gwybodaeth neu bryderon sydd gyda ti am dy iechyd neu les.

Bydd dy feddyg neu nyrs wedi derbyn hyfforddiant penodol yn ymwneud â phlant sy’n derbyn gofal. Bydd modd iddyn nhw dy helpu gydag unrhyw faterion neu bryderon iechyd sydd gyda ti.

BETH SY’N DIGWYDD PAN FYDDA’I YN MYND I WELD Y MEDDYG NEU’R NYRS?

Unig ddiben yr asesiad iechyd yw gweld sut rwyt ti’n teimlo. Bydd rhan o’r asesiad yn ymwneud â dy iechyd corfforol (pethau sy’n digwydd i dy gorff) a bydd rhan arall yn ymwneud â dy iechyd emosiynol (os oes gyda ti unrhyw broblemau neu bryderon). Mae angen i’r doctor neu nyrs wirio dy fod yn tyfu’n iawn. Os wyt ti’n dymuno, mae modd iddyn nhw wirio dy daldra a dy bwysau. Byddan nhw’n trafod unrhyw gyflyrau iechyd efallai eu bod nhw arnat ti a sicrhau dy fod yn derbyn y driniaeth/meddygaeth gywir.

Mae’r asesiad iechyd yn gyfle da i drafod sut i fod yn fwy iach, a sut i deimlo’n well. Bydd gyda ti gyfle i weld y meddyg neu nyrs ar dy ben dy hun os wyt ti’n dymuno hynny. Fydd dim angen i ti ddadwisgo i wneud hyn.

Ar ôl yr asesiad byddwn ni’n siarad â ti a dy gynhaliwr am unrhyw beth mae angen i ti ei wneud i wella dy iechyd.

BETH AM FY NANNEDD?

Mae gofal deintyddol da yn rhan bwysig iawn o dy iechyd yn gyffredinol. Pan fyddi di’n dechrau derbyn gofal, bydd angen i ti fynd at y deintydd er mwyn gwirio cyflwr dy ddannedd. Bydd angen i ti ymweld â’r deintydd bob chwe mis er mwyn sicrhau bod dy ddannedd a dy ddeintgig (gums) yn iach. Os wyt ti’n nerfus am fynd at y deintydd, rho wybod i’r person sy’n gofalu amdanat ti, dy weithiwr cymdeithasol neu dy nyrs a bydd modd iddo ef/iddi hi dy helpu di.

BETH AM FY LLYGAID?

Bydd angen i ti fynd i weld yr optegydd o leiaf unwaith y flwyddyn. Bydd yr optegydd yn gwneud yn siŵr bod popeth yn iawn gyda dy lygaid a dy sbectol, os oes sbectol gyda ti.

BETH YW CYNLLUN GWEITHREDU IECHYD?

Mae rhaid i bob plentyn sy’n derbyn gofal yng Nghymru gael Cynllun Gweithredu Iechyd, sy’n rhan o dy Gynllun Gofal a Chymorth cyffredinol. Mae’n nodi dy anghenion iechyd unigol a sut byddi di, neu’r bobl yn dy fywyd, yn diwallu’r anghenion hynny.

Byddwn ni’n anfon hwn at dy Feddyg Teulu fel bod ganddo/ganddi’r holl wybodaeth bwysig am dy iechyd a dy les.

FYDD POBL ERAILL YN GWELD FY NODIADAU MEDDYGOL?

Ar ôl yr asesiad iechyd, bydd copi o’r Cynllun Gweithredu Iechyd, fel arfer, yn cael ei anfon at dy feddyg, dy weithiwr cymdeithasol a’r nyrs ar gyfer plant sy’n derbyn gofal. Bydd hyn yn sicrhau bod pawb sy’n gysylltiedig â dy ofal yn effro i dy anghenion iechyd a sut i dy helpu di.

Dan rai amgylchiadau, bydd rhywfaint o’r wybodaeth am dy iechyd, neu’r wybodaeth i gyd, yn cael ei rhannu â’r person sy’n rhoi gofal i ti. Bydd croeso i ti hefyd gael copi o’r wybodaeth. Bydd dy iechyd yn cael ei drafod yn dy gyfarfodydd adolygu, felly, os fyddi di ddim yn fodlon i rywun penodol gael darllen dy Gynllun Gweithredu Iechyd, dyweda wrth rywun cyn dy gyfarfod adolygu neu yn ystod y cyfarfod. Fydd trafod materion iechyd personol, neu faterion iechyd sy’n codi cywilydd arnat ti, ddim yn cael eu caniatáu yn ystod adolygiad, oni bai dy fod eisiau eu trafod nhw.

FYDD MODD I MI FYND I APWYNTIADAU MEDDYGOL HEB OEDOLYN/RHIANT/CYNHALIWR?

Bydd. Os wyt ti’n ddigon aeddfed, ac mae dy feddyg teulu o’r farn dy fod yn deall yn llawn yr hyn sydd ei angen, mae hawl gyda ti i gael cyngor a gofal iechyd cyfrinachol.

 

Rhywbeth i ddweud?