Gadael y System Ofal

Gadael gofal

Mae’r Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn nodi bod rhaid i Gyngor Rhondda Cynon Taf hyrwyddo lles person ifanc – hyd yn oed ar ôl iddo adael y system ofal.

Mae 6 grŵp (neu ‘categori’) o bobl ifainc sy’n gallu cael cymorth. Mae gan bob grŵp hawliau gwahanol.

GRŴP 1 (PERSON IFANC 16 NEU 17 OED SY’N DERBYN GOFAL)

Dyma berson sydd yn parhau i dderbyn gofal, a oedd hefyd yn derbyn gofal ar neu cyn ei ben-blwydd yn 16 oed. Mae hefyd wedi derbyn gofal am fwy na 13 wythnos ers ei ben-blwydd yn 14 oed.

GRŴP 2 (PERSON IFANC SY’N IAU NAG 18 OED SY’N GADAEL Y SYSTEM OFAL)

Dyma berson ifanc sydd rhwng 16 ac 17 oed nad yw yn derbyn gofal bellach. Ond roedd yn derbyn gofal am fwy na 13 wythnos ers ei ben-blwydd yn 14 oed (gan gynnwys, neu wedi, diwrnod ei ben-blwydd yn 16 oed).

GRŴP 3 (PERSON IFANC SY’N HŶN NAG 18 OED SY’N GADAEL Y SYSTEM OFAL)

Dyma rywun sydd rhwng 18 – 21 oed a oedd yn derbyn gofal am fwy na 13 wythnos ers ei ben-blwydd yn 14 oed (gan gynnwys, neu wedi, diwrnod ei ben-blwydd yn 16 oed).

GRŴP 4: AILGYSYLLTU Â’R SYSTEM OFAL AT DDIBENION ADDYSG NEU HYFFORDDIANT)

Dyma rywun sydd rhwng 21 – 25 oed sydd wedi rhoi gwybod i Gyngor Rhondda Cynon Taf ei fod yn dilyn, neu’n dymuno dilyn, rhaglen addysg neu hyfforddiant.

GRŴP 5: PERSON IFANC SYDD WEDI GADAEL Y SYSTEM OFAL O DAN ORCHYMYN GWARCHEIDWAETH ARBENNIG

Dyma rywun sydd wedi cyrraedd 16 oed (ond sydd hefyd yn iau nag 21 oed). Mae’n destun, , Gorchymyn Gwarcheidwaeth Arbennig pan fydd yn troi’n 18 oed, neu eisoes wedi bod yn destun gorchymyn o’r fath. Roedd y person yma hefyd yn derbyn gofal cyn cafodd y Gorchymyn ei wneud.

GRŴP 6: PERSON IFANC NAD YW’N GYMWYS FEL ‘PERSON SY’N GADAEL Y SYSTEM OFAL’

Mae hwn yn berson ifanc rhwng 16 a 21 oed, nad yw’n perthyn i unrhyw un o’r grwpiau uchod. Ond, mae’r person ifanc wedi cael ei wahanu o’i deulu am o leiaf 3 mis tra roedd yn 16 neu’n 17 oed o ganlyniad i’r amgylchiadau canlynol: roedd yn derbyn gofal gan y cyngor, neu roedd yn byw mewn cartref gofal i blant preifat, neu roedd yn byw mewn llety a ddarparwyd gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) neu’r cyngor mewn lleoliad addysg, neu roedd yn byw gyda rhieni maeth preifat.

PA HAWLIAU SYDD GAN BOB GRWP?

Rhaid i bobl ifainc yng Ngrŵp 1, 2, 3 a 4 gael ymgynghorydd personol hyd nes y byddant wedi gorffen addysg amser llawn fan lleiaf.

Dylai fod gan bobl ifainc yng Ngrŵp 2, 3 a 4 cynllun sy’n nodi pa gymorth a chyngor sydd eu hangen arnynt. Mae’n rhaid i Gyngor Rhondda Cynon Taf sicrhau bod gan unrhyw un yng Ngrŵp 2 digon o arian i fyw, rhywle addas i fyw a digon o gymorth.

Mae’r rhaid i Gyngor Rhondda Cynon Taf gefnogi oedolion ifainc yng Ngrŵp 3 drwy help gyda’r costau o fyw yn agos at eu swydd, neu i fyw yn agos at addysg a hyfforddiant os ydynt yn chwilio am swydd. Rhaid iddynt wneud grant tuag at gostau addysg neu hyfforddiant neu helpu lles yr oedolyn ifanc.

Mae’n rhaid i Gyngor Rhondda Cynon Taf sicrhau bod gan yr holl bobl ifainc yng Ngrŵp 3 sy’n symud i ffwrdd i fynd i’r Brifysgol neu’r Coleg rhywle i fyw yn ystod y gwyliau.

Mae’r rhaid i Gyngor Rhondda Cynon Taf helpu oedolion ifainc yng Ngrŵp 4 hyd nes iddynt adael addysg neu hyfforddiant.

Bydd angen help gan Gyngor Rhondda Cynon Taf ar rai pobl yng Ngrŵp 5 a Grŵp 6. Mae modd i Gyngor Rhondda Cynon Taf helpu i dalu costau byw, addysg neu hyfforddiant neu ddarparu llety.

Rhywbeth i ddweud?