Ble Byddaf i’n Byw?

Cyn belled â phosibl dylet ti fyw yn Rhondda Cynon Taf, fel bod modd i ti weld dy deulu a dy ffrindiau o hyd, a pharhau â dy addysg di os ydy hi’n ddiogel i ti wneud hynny.  

Gofal gan Berthynas

Mae derbyn gofal gan berthynas yn golygu y bydd modd i ti fyw gydag aelod o’r teulu megis mam-gu, tad-cu, neu ffrind i’r teulu. Bydd y Gwasanaethau i Blant yn gwneud gwaith ymchwil i ganfod a oes modd i aelod o dy deulu di edrych ar dy ôl di cyn edrych am leoliad gyda rhieni maeth, neu leoliad preswyl.

Gofal Maeth

Os does dim modd iti fyw gydag un o dy rieni neu aelod o dy deulu di, mae modd i ti fyw gyda theulu maeth/gwarcheidwad. Mae’r rhieni maeth i gyd yn wahanol ac maen nhw’n dod o gefndiroedd gwahanol, ond, maen nhw i gyd wedi’u hyfforddi i ofalu am blant. 

Weithiau, mae’n cymryd amser i ymgartrefu a theimlo’n gyffyrddus gyda theulu maeth. Mae hyn yn gwbl normal! 


Cartref preswyl (Cartref i Blant)
 

Mae Cartref Preswyl yn gartref ble rwyt ti a phlant eraill yn byw gyda’ch gilydd. Bydd aelodau staff y cartref yn edrych ar dy ôl di ac yn gwneud i ti deimlo’n ddiogel. 

Mae dau gartref i blant yn Rhondda Cynon Taf: 

  • Mae Cartref Cymunedol Beddau ar gyrion Pontypridd ac yn darparu lleoliadau tymor hir ar gyfer hyd at bump o bobl ifainc. 
  • Mae Cartref Cymunedol Bryn-dâr yn Aberdâr ac yn darparu gofal tymor hir ar gyfer hyd at bump o bobl ifainc. 

Mae cartrefi cymunedol eraill ar gael yn Rhondda Cynon Taf a thu hwnt i’r awdurdod, ond nid y Gwasanaethau i Blant sy’n eu cynnal nhw. Serch hynny, o bryd i’w gilydd maen nhw’n cael eu defnyddio i dy gadw di’n ddiogel.  

Byddi di’n cael dy leoli mor agos â phosibl at dy gartref di.

Gwyliau Byr 

  • Mae Nantgwyn yn gartref preswyl yng Nghwmdâr, Aberdâr. Mae modd i blant a phobl ifainc rhwng 6 ac 18 oed sydd ag anableddau dysgu neu anableddau corfforol aros yma am gyfnod byr. 
  • Mae gan Action for Children gartref yn Rhydfelen o’r enw Ash Square.  Fel Nantgwyn, mae modd i blant ifainc rhwng 5 ac 8 oed ag anabledd dysgu neu gorfforol aros yno am gyfnod byr.

Lleoliad gyda Rhieni 

Mae rhai plant a phobl ifainc yn dychwelyd i fyw gyda’u rhieni pan mae’n ddiogel iddyn nhw wneud hynny. Serch hynny, maen nhw’n parhau i fod yn blant sy’n derbyn gofal, oherwydd mae Gorchymyn Gofal yn ei le iddyn nhw.

Llety diogel 

Efallai bydd pobl ifainc yn derbyn gofal mewn llety diogel er eu lles a’u diogelwch nhw eu hunain.  Bydd pobl ifainc yn symud i lety diogel pan fydd perygl o niwed difrifol iawn iddyn nhw eu hunain neu i bobl eraill.

Sefydliad Troseddwyr Ifanc 

Mae modd i bobl ifainc gael eu rhoi mewn Sefydliad Troseddwyr Ifanc tra’u bod nhw ar remánd (yn aros i fynd i’r llys) neu ar ôl iddyn nhw gael eu dedfrydu. Mae plant yn derbyn gofal tra’u bod nhw ar remánd. 

Rhywbeth i ddweud?