Fy Addysg

Pwy alla i siarad â am gefnogaeth ar gyfer fy addysg?

Dyma restr o rai o’r bobl wahanol gallwch chi siarad â nhw am eich addysg:

  • Eich rhieni
  • Staff Ysgol – Eich Person CLA Dynodedig, Pennaeth Blwyddyn, Staff Bugeiliol
  • Cydlynydd Addysg Carfan Addysg CLA
  • Eich gweithiwr cymdeithasol
  • Seicolegydd Addysg
  • Rhieni Maeth
  • Eiriolwr
  • Swyddog Adolygu Annibynnol

LWFANS CYNNAL A CHADW ADDYSG

Os byddwch chi’n penderfynu aros yn yr ysgol neu fynd i’r coleg ar ôl eich pen-blwydd yn 16 oed, gallech chi gael lwfans wythnosol o £30 i’ch helpu chi i astudio. Bydd yr arian yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch cyfrif banc bob pythefnos. Am ragor o wybodaeth am Lwfans Cynhaliaeth Addysg, ewch i wefan Cyllid Myfyrwyr Cymru http://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk/ab/lca.aspx#.VegqwBHBzRY

MYND I’R BRIFYSGOL

Os byddwch chi’n penderfynu mynd i’r brifysgol, bydd llawer o fathau gwahanol o gymorth ar gael i chi:

GRANTIAU A BENTHYCIADAU

Yn gyntaf, dylai fod amrywiaeth o grantiau a benthyciadau ar gael i chi, yn ogystal â chymorth ychwanegol trwy Gyllid Myfyrwyr Cymru, yn dibynnu ar eich amgylchiadau. Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â http://www.studentfinancewales.co.uk

FFIOEDD MYFYRWYR A CHOSTAU LLETY

Efallai bydd Cyngor Rhondda Cynon Taf yn gallu talu am eich ffioedd a’ch llety er mwyn lleihau’r pwysau ariannol sy’n gysylltiedig â mynd i’r brifysgol. Os ydych chi eisiau aros mewn addysg, ac i gael rhagor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael, siaradwch â’ch gweithiwr gofal.

BWRSARIAETH

Os byddwch chi’n mynd i’r brifysgol, efallai gallech chi hefyd dderbyn Bwrsari Addysg Uwch. Dyma swm o arian y mae modd ei wario ar bethau y gallai fod eu hangen arnoch i’ch helpu gyda’ch astudiaethau. https://www.careleavers.com/what-we-do/young-peoples-project/acessingeducation-2/

Lansiwyd y Marc Ansawdd NNECL ar gyfer y sawl sy’n gadael y system Ofal yn hydref 2021. Caiff y marc ei ddyfarnu i brifysgolion a cholegau gan y Rhwydwaith Cenedlaethol ar gyfer Addysg y sawl sy’n gadael y system ofal (NNECL). Mae’r Marc Ansawdd yn dangos bod y brifysgol neu’r coleg yn cydnabod lle mae prifysgolion a choleg yn darparu amgylchedd cynhwysol a chefnogaeth i fyfyrwyr gyrraedd addysg uwch a dilyn y llwybr hwnnw. Gan mai dim ond ym mis Hydref 2021 y cafodd ei lansio, nifer fach o brifysgolion a cholegau a gymerodd ran yn y rhaglen beilot sydd wedi derbyn y wobr hyd yma, felly cofiwch wirio’r dudalen profiad gofal ar wefan y darparwr. https://www.ucas.com/undergraduate/applying-university/ind individual-needs/ucas-undergraduate-support-care-leavers

Dyma rai dolenni defnyddiol eraill:

https://www.careleavers.com/what-we-do/young-peoples-project/acessingeducation-2/ https://buttleuk.org/apply-for-a-grant/

Rhywbeth i ddweud?